
2001 Rhif 606 (Cy. 29)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2001
Yn dod i rym 1 Ebrill 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 527A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau
2 
Yn rheoliad 3 (ymgynghori) o Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 —
(i) Ym mharagraff (2)(n) yn lle'r geiriau “clerk to the justices” rhoddir y geiriau “justices' chief executive”; a
(ii) Dilëir paragraff (5) .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001