
2001 Rhif 495 (Cy. 22 )
ADDYSG , CYMRU
Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001
Yn dod i rym 1 Mawrth 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle “28(a) to (d)” rhowch “28(a), (b) and (d)”.
(3) Yn rheoliad 3, dilëwch yr “and” yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch —“
(g) expenditure in connection with the administration of committees dealing with education; and
(h) expenditure in connection with external audit.”.
(4)  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch “(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Chwefror 2001