
2001 Rhif 429 (Cy. 19)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU,CYLLID
Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001
Yn dod i rym 16 Chwefror 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 74, 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988  ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru)(Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995 ;
 ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) (Diwygio) 1996 ;
 Ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000 ).
Diddymu Rheoliadau 2000
2 
Diddymir trwy hyn Reoliadau 2000.
Ailsefydlu darpariaethau'r Prif Reoliadau
3 
Bydd y darpariaethau a wnaed gan y Prif Reoliadau (fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau 1996) yn effeithiol fel yr oeddent yn union cyn i Reoliadau 2000 ddod i rym.
Darpariaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd yn 2000
4 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2000 mewn perthynas ag unrhyw ardoll gan awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 
D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Chwefror 2001