
2001 Rhif 3910 (Cy.322)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud 4 Rhagfyr 2001
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 
Ynglyn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2002, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: —
(a) ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1, yn lle “75 per cent” rhoddir “90 per cent”;
(b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.004” rhoddir “0.995”; ac
(c) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001
ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Regulation 6

Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 54,438
Bridgend 101,462
Caerphilly 128,738
Carmarthenshire 133,164
Cardiff 251,733
Ceredigion 58,082
Conwy 89,317
Denbighshire 71,214
Flintshire 114,556
Gwynedd 91,623
Isle of Anglesey 50,068
Merthyr Tydfil 41,805
Monmouthshire 68,197
Neath Port Talbot 106,999
Newport 104,507
Pembrokeshire 88,716
Powys 99,692
Rhondda Cynon Taff 184,119
Swansea 180,714
Torfaen 68,089
Vale of Glamorgan (The) 93,719
Wrexham 97,374”