
2001 Rhif 3901 (Cy.319)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 4 Rhagfyr 2001
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 24(2) (gg) a 54 (3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru; ac
 ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997.
Disgrifiad o brofion a thasgau
3 
Mae'r profion a'r tasgau y caiff ACCAC eu datblygu, eu gosod neu eu rhoi yn brofion a thasgau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn rhan o'r asesiad o gymhwysedd y rhai y mae'r profion neu'r tasgau yn cael eu rhoi iddynt yn y canlynol—
(a) medrau sylfaenol llythrennedd a rhifedd; a
(b) medrau allweddol cyfathrebu, cymhwyso rhif a thechnoleg gwybodaeth.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad
4 Rhagfyr 2001