
2001 Rhif 3831 (Cy.317)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 29 Tachwedd 2001
Yn dod i rym 18 Rhagfyr 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1), 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990  sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno ag unrhyw gyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddianau y mae'r Rheoliadau hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol arnynt; ac (i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gosod taliadau mewn perthynas â monitro gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995), gan ei fod wedi'i ddynodi) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau Canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1 
Bydd y Rheoliadau hyn, y gellir cyfeirio atynt fel Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Rhagfyr 2001.
Diwygiadau i Reoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998
2 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998) yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Yn y diffiniad o “occupier” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) mae'r geiriau “, cold store or a re-packaging centre,” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “or a cold store,”.
(3) Yn y diffiniad o “premises” ym mharagraff (1) o reoliad 2, mae'r geiriau “, cold store or re-packaging centre” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “or cold store”.
(4) Yn y tabl ym mharagraff (2) o reoliad 2, mae'r geiriau “re-packaging centre” yn cael eu mewnosod o dan y geiriau “cold store” ym mhob un o golofnau (1) a (2).
(5) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (taliadau) mae'r geiriau “slaughterhouse, cutting premises, cold store and repackaging centre” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “slaughterhouse, cutting premises and cold store”.
(6) Mae'r rheoliad canlynol yn cael ei fewnosod rhwng rheoliad (3) a rheoliad (4) (gwybodaeth)—“
Withdrawal of inspections
3A 
Where the Food Standards Agency has had judgment entered against an occupier for any sum which is recoverable by the Food Standards Agency as a debt from that occupier under regulation 3(4) above and the occupier fails within a reasonable time thereafter to satisfy the judgment the Food Standards Agency may (regardless of any other legal remedy open to it) refuse to carry out any further inspections at the premises in respect of which the debt accrued until the judgment has been satisfied.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol
29 Tachwedd 2001