
2001 Rhif 3807 (Cy.315) (C.124)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 28 Tachwedd 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1948” (“the 1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948;
 ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001; ac
 mae i “y gyfradd safonol” yr un ystyr â “the standard rate” yn adran 22(2) o Ddeddf 1948.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 49 o Ddeddf 2001
2 

(1) 3 Rhagfyr 2001 yw'r diwrnod sydd wedi'i benodi i adran 49 o Ddeddf 2001 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw berson —
(a) sy'n cael llety gan awdurdod lleol o dan adran 21(1) o Ddeddf 1948 (dyletswyddau awdurdodau lleol i ddarparu llety), a
(b) a fyddai, pe bai'r awdurdod hefyd yn darparu'r gofal nyrsio mewn cysylltiad â'r llety hwnnw, yn gorfod gwneud taliadau o dan adran 22 (taliadau sydd i'w talu am lety) neu adran 26 o Ddeddf 1948 naill ai ar y gyfradd safonol neu ar gyfradd is nad yw'n llai na'r gyfradd safonol llai £100.
(2) Er y gall person beidio â bod yn bodloni is-baragraff (b) o baragraff (1) uchod, bydd adran 49 o Ddeddf 2001 yn dal yn gymwys i'r person hwnnw.
Diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 50 o Ddeddf 2001
3 
19 Rhagfyr 2001 yw'r diwrnod penodedig i is-adrannau (2) i (10) o adran 50 o Ddeddf 2001 ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 )
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Tachwedd 2001