
2001 Rhif 3760 (Cy.309)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 20 Tachwedd 2001
Yn dod i rym 18 Ionawr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru  ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Archwilio, unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol ac unrhyw gyrff cyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996.
Datganiad o Gyfrifon
3 
Mae Rheoliad 6 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
Ym mharagraff (3)(k) dilëwch y geiriau “a probation committee,”.
Datganiadau Cyfrifydda Eraill
4 
Mae Rheoliad 7 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
Ym mharagraffau (3) a (4), yn lle “£5,000” rhowch “£50,000”.
Cyhoeddi'r Llythyr Archwilio Blynyddol
5 
Ar ôl Rheoliad 16 o Reoliadau 1996 mewnosodir—“
Publication of Annual Audit Letter
16A 
As soon as reasonably possible after it is received a relevant body shall—
(a) publish the annual audit letter received from the auditor; and
(b) keep copies available for purchase by any person on payment of a reasonable sum to be determined by the relevant body.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Tachwedd 2001