
2001 Rhif 3680 (Cy.301)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Dileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 13 Tachwedd 2001
Yn dod i rym yn unol ac erthygl 1
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:—
Teitl, cychwyn a dehongli
1 

(1) Teitl y rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar y dyddiad y bydd dileu'r Bwrdd Ymyrraeth yn effeithiol.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “y Bwrdd Ymyrraeth” yw'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Darpariaethau canlyniadol i ddileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol
2 

(1) Yn Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000) —
(a) yn rheoliad 3(1) —
(i) caiff y diffiniadau o “Bwrdd Ymyrraeth” a “cynlluniau'r Bwrdd” eu dileu;
(ii) yn y diffiniad o “y swm perthnasol” caiff y geiriau “, neu, yn ôl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth,” eu dileu;
(b) yn rheoliad 4(1), caiff y geiriau “, neu'r Bwrdd Ymyrraeth (yn achos taliadau o dan gynlluniau'r Bwrdd),” eu dileu.
(2) Yn Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001—
(a) Yn rheoliad 2(1) —
(i) Caiff y diffiniad o “y Bwrdd” ei ddileu;
(ii) Yn y diffiniad o “cynllun cymhorthdal y Gymuned Ewropeaidd” caiff y geiriau “ac yn cael ei weinyddu ym Mhrydain Fawr gan y Bwrdd” eu dileu;
(iii) Yn y diffiniad o “sefydliad addysgol cymwys”, yn lle'r geiriau “gyda'r Bwrdd” rhoddir y geiriau “gyda'r Cynulliad Cenedlaethol”.
(b) Yn rheoliad 4(2) yn lle unrhyw gyfeiriad at “y Bwrdd” rhoddir “y Cynulliad Cenedlaethol”.
(c) Yn rheoliad 6, caiff y geiriau “gan y Cynulliad Cenedlaethol”, eu dileu ac yn lle'r geiriau “y Bwrdd yn gweithredu fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol” rhoddir y geiriau “y Cynulliad Cenedlaethol neu ei asiantau.”.
(ch) Yn rheoliad 7, yn lle'r geiriau “Y Bwrdd” rhoddir y geiriau “Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei asiantau”.
(3) Yn Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001—
(a) yn y rheoliadau canlynol, yn ychwanegol at unrhyw ddiwygiad arall a bennir, yn lle'r gair “Bwrdd” rhoddir y geiriau “Cynulliad Cenedlaethol” —
(i) yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, yn y ddau le y'u gwelir;
(ii) yn rheoliad 4(1), yn y ddau le y'u gwelir;
(iii) yn rheoliad 5;
(iv) yn rheoliad 8(1);
(v) yn rheoliad 8(6);
(vi) yn rheoliad 9(1);
(vii) yn rheoliad 10;
(viii) yn rheoliad 11;
(ix) yn rheoliad 13(1);
(x) yn rheoliad 14, yn y ddau le y'u gwelir;
(xi) yn rheoliad 15, yn y ddau le y'u gwelir;
(xii) yn rheoliad 16, yn y ddau le y'u gwelir;
(xiii) yn rheoliad 17, yn y ddau le y'u gwelir;
(xiv) yn rheoliad 19(1) yn y lle cyntaf y'u gwelir;
(xv) yn rheoliad 19(2) yn y ddau le y'u gwelir.
(b) Yn rheoliad 7(2) —
(i) caiff y geiriau “gan y Bwrdd”, yn y ddau le y'u gwelir, eu dileu;
(ii) yn is-baragraff (a)(i) ac is-baragraff (b)(i), o flaen y geiriau “yn unol â” rhoddir y geiriau “gan y Bwrdd neu, ar ôl i Reoliadau Dileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2001 ddod i rym, gan y Cynulliad Cenedlaethol”;
(iii) yn is-baragraff (a)(ii) ac is-baragraff (b)(ii), o flaen y geiriau “yn unol ag” rhoddir y geiriau “gan y Bwrdd neu, ar ôl i Reoliadau'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Dileu) 2001 ddod i rym, gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu'r Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, yn ôl fel y digwydd,”;
(c) Yn lle rheoliad 8(3), rhoddir y rheoliad canlynol —“
(3) Os oes hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno o'r blaen —
(a) gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) neu o dan unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (5), neu
(b) cyn i Reoliadau'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Dileu) 2001 ddod i rym, gan y Bwrdd o dan baragraff 1,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad pellach o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ef heb iddo fod o'r farn ei fod yn cael ei orbori.”.
(ch) Yn rheoliad 8(4)—
(i) yn lle'r gair “Bwrdd”, yn y ddau le y mae'n ymddangos, rhodder y geiriau “Cynulliad Cenedlaethol”;
(ii) yn y drydedd linell, dilëir y geiriau “neu gan y Cynulliad Cenedlaethol”.
(d) Yn rheoliad 19(1) yn lle'r geiriau “bod y Bwrdd”, yn yr ail le y cyfeirir at y Bwrdd, rhoddir y geiriau “ei fod”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Tachwedd 2001