
2001 Rhif 3322 (Cy.275)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 28 Medi 2001
Yn dod i rym 1 Hydref 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
2 
Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu dim ac i gael taliad llawn), ar ddiwedd paragraff (m) ychwanegir y gair “or” a'r paragraff canlynol —“
(n) a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act”.
Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
3 
Ym mharagraff 1(a)(ii) o reoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad), yn lle “or (m)” rhowch “(m) or (n)”.
Diwygio Atodlen 1A o'r prif Reoliadau
4 
Yn Atodlen 1A o'r prif Reoliadau (cyfnodau dilysrwydd hysbysiadau hawl), ar ôl paragraff 9 ychwanegir y paragraff canlynol—“

10 
A relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act. 12 months or until the child’s 18th birthday whichever is longer”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
28 Medi 2001