
2001 Rhif 2983 (Cy. 250 )
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2001
Wedi'i wneud 29 Awst 2001
Yn dod i rym 31 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Teitl, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3)  unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn
 ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr;
 ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol);
 ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo.
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc., fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2000 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2000 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Awst 2001
ATODLEN
RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Erthyglau 1(2) a 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £
1. Da byw
Buchod llaeth:  
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 250
Bridiau eraill buwch 308
Buchod bridio cig eidion:
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996 buwch 52
Ar dir arall buwch 43
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 45
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 30
Mamogiaid:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996 mamog 16
Ar dir arall mamog 18
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵ yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 0.87
Moch:  
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 70
Moch porc pen 1.60
Moch torri pen 2.90
Moch bacwn pen 4.10
Dofednod:  
Ieir dodwy aderyn 0.90
Brwyliaid aderyn 0.10
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.20
Tyrcwn aderyn 1.44
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 112
Ffa hectar 113
Had glaswellt hectar 155
Had llin hectar 62
Ceirch hectar 137
Rêp had olew hectar 121
Pys:  
Sych hectar 143
Dringo hectar 237
Tatws:  
Cynnar cyntaf hectar 675
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 705
Betys siwgr hectar 288
Gwenith hectar 179
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin hectar 391
Ysgewyll Brwsel hectar 1525
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1665
Moron hectar 2385
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 1040
Seleri hectar 7545
Cennin hectar 3070
Letys hectar 3950
Wynwns:  
Bylbiau sych hectar 1305
Salad hectar 4263
Bylbiau awyr agored hectar 1682
Pannas hectar 2591
Riwbob (naturiol) hectar 3750
Maip a swêds hectar 1400
4. Cnydau gwarchodedig
Narsisi gorfod 1000 metr sgwâr 7225
Tiwlipau gorfod 1000 metr 6790
5. Ffrwythau'r berllan
Afalau:  
Seidr hectar 495
Coginio hectar 1275
Melys hectar 1360
Ceirios hectar 1085
Gellyg hectar 1140
Eirin hectar 1180
6. Ffrwythau meddal
Cyrens Duon hectar 840
Mafon hectar 2865
Mefus hectar 3760
7. Amrywiol
Hopys hectar 1850
8. Neilltir
 hectar 26
NODIADAU I'R ATODLEN
Erthygl 2(4)
Nodyn i golofn 1

Nodiadau i golofn 3











