
2001 Rhif 2982 (Cy.249)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 29 Awst 2001
Yn dod i rym 31 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 , ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Teitl, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Rheoliad 805/68 y Cyngor” (“Council Regulation 805/68”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 805/68 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo;
 ystyr “Rheoliad 1765/92 y Cyngor” (“Council Regulation 1765/92”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 1765/92 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol;
 ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr ;
 ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol;
 ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo).
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw yr uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Diddymu
3 
Drwy hyn diddymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 1998 mewn perthynas â thir a leolir yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Awst 2001
ATODLEN
RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Erthyglau 1(2) a 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu
  £
1. Da byw
Buchod llaeth:  
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 283
Bridiau eraill buwch 335
Buchod bridio cig eidion:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996(a) buwch 50
Ar dir arall buwch 41
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 48
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 41
Mamogiaid:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996 mamog 20
Ar dir arall mamog 21
Wŷn stôr (gan gynnwys wŷn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 0.87
Moch:  
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 90
Moch porc pen 2.06
Moch torri pen 3.66
Moch bacwn pen 5.13
Dofednod:  
Ieir dodwy aderyn 1.08
Brwyliaid aderyn 0.12
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.27
Tyrcwn aderyn 1.23
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 158
Ffa hectar 75
Had glaswellt hectar 189
Had llin hectar 137
Ceirch hectar 142
Rêp had olew hectar 164
Pys:  
Sych hectar 61
Dringo hectar 257
Tatws:  
Cynnar cyntaf hectar 675
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 790
Betys siwgr hectar 357
Gwenith hectar 201
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin hectar 409
Ysgewyll Brwsel hectar 1460
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1684
Moron hectar 2307
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 1017
Seleri hectar 6175
Cennin hectar 3255
Letys hectar 3914
Wynwns:  
Bylbiau sych hectar 1087
Salad hectar 4477
Bylbiau awyr agored hectar 1416
Pannas hectar 2539
Riwbob (naturiol) hectar 3096
Maip a swêds hectar 1289
4. Cnydau gwarchodedig
Narsisi gorfod 1000 metr sgwâr 8294
Tiwlipau gorfod 1000 metr sgwâr 6226
Madarch 1000 metr sgwâr 11272
5. Ffrwythau'r berllan
Afalau:  
Seidr hectar 603
Coginio hectar 1412
Melys hectar 1378
Ceirios hectar 1297
Gellyg hectar 1100
Eirin hectar 1030
6. Ffrwythau meddal
Cyrens Duon hectar 1093
Eirin Mair hectar 1579
Mafon hectar 2974
Mefus hectar 3093
7. Amrywiol
Hopys hectar 1700
8. Neilltir hectar 62
NODIADAU I'R ATODLENErthygl 2(4)
Nodyn i golofn 1

Nodiadau i golofn 3











