
2001 Rhif 276 (Cy. 12)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 30 Ionawr 2001
Yn dod i rym 1 Chwefror 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau
2 
Ar ddiwedd Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w anwybyddu) ychwanegir y paragraff canlynol —“
20 
Any amount which would be disregarded under paragraph 61 of Schedule 10 to the Income Support Regulations (ex-gratia payment made by the Secretary of State in consequence of a person’s imprisonment or internment by the Japanese during the Second World War).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2001