
2001 Rhif 2681 (Cy.222)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 ac sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach mewn perthynas â Chymru, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Cynnydd yn y ffi archwilio
2 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 amnewidir am y ffigur “£14.50” yno y ffigur “£15.50”.
Diddymiad
3 
Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998 cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001