
2001 Rhif 2662 (Cy.218)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 20 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 21 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy weithredu ar y cyd i arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso ac ymestyn diffiniadau
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio)(Cymru) 2001 a daw i rym ar 21 Gorffennaf 2001.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn—
(a) estynnir y diffiniadau o “animals” (“anifeiliaid”) yn is-adran (1) o adran 87 o'r Ddeddf honno i gynnwys pob mamal ac eithrio dyn ;
(b) estynnir y diffiniad o “poultry” (“dofednod”) yn is-adran (4) o adran 87 o'r Ddeddf honno i gynnwys pob aderyn;
(c) estynnir y diffiniadau o “disease” (“clefyd”) yn is-adran (1) o adran 88 o'r Ddeddf honno i gynnwys pob clefyd anifeiliaid; ac
(ch) estynnir y diffiniad o “disease” (“clefyd”) yn is-adran (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno er mwyn cynnwys pob clefyd dofednod.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys aderyn;
 mae “cyfrwng cludo” (“means of transport”) yn cynnwys ei ffitiadau, ei rannau datodadwy ac unrhyw gynwysyddion (p'un a ydynt yn ddatodadwy neu beidio) a ddefnyddir gydag ef;
 mae i “Cymru” yr un ystyr ag yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddiddymu mewn ysgrifen unrhyw bryd.
Glanhau a diheintio mewn perthynas â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
3 

(1) Bydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a ddefnyddir ar gyfer yr anifeiliaid canlynol (heblaw o dan yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 2)—
(a) anifeiliaid carnog;
(b) colomennod rasio; ac
(c) y canlynol os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl.
(2) Os oes cyfrwng cludo wedi'i ddefnyddio i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai arwain at drosglwyddo clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid, rhaid i ddefnyddiwr y cyfrwng cludo sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a dim mwy na 24 awr ar ôl cwblhau'r daith, fod y cyfrwng cludo hwnnw a'i offer yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 1, neu, os yw'n briodol, yn cael eu dinistrio.
(3) Ni chaiff neb ddefnyddio, na pheri na chaniatáu defnyddio unrhyw gyfrwng cludo i gludo unrhyw anifail oni bai bod y cyfrwng cludo a'i offer wedi'u glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 1 ers iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai arwain at drosglwyddo clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid.
(4) Os yw cyfrwng cludo wedi'i faeddu fel y gallai beri risg o drosglwyddo clefyd ers ei lanhau a'i ddiheintio ddiwethaf, ni chaiff neb lwytho, na pheri na chaniatáu llwytho unrhyw anifail i mewn i'r cyfrwng cludo oni bai bod y cyfrwng cludo hwnnw wedi'i lanhau a'i ddiheintio eto yn unol â pharagraffau 3 a 4 o Atodlen 1.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo unrhyw anifail symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, gwelltach budr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted â phosibl.
Glanhau a diheintio mewn perthynas â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod o dan amgylchiadau penodol
4 

(1) Bydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chludo—
(a) pob mamal ac eithrio dyn heblaw anifeiliaid carnog;
(b) pob aderyn nad yw wedi'i gynnwys yn erthygl 3; ac
(c) anifeiliaid a bennir yn erthygl 3 o dan yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 2;
ond ni fydd yn gymwys yn achos—
(i) cludiant nad yw o natur fasnachol;
(ii) anifail unigol y mae person, sy'n gyfrifol am yr anifail tra bydd yn cael ei gludo, yn mynd gydag ef wrth iddo gael ei gludo;
(iii) cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchennog ar daith breifat.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu'n peri neu'n caniatáu iddynt gael eu cludo pan fydd yr erthygl hon yn gymwys sicrhau—
(a) eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau, a phan fydd angen, wedi'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 1; a
(b) bod anifeiliaid meirw, sarn budr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted â phosibl.
Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
5 
Rhaid i bopeth a dynnir o'r cyfrwng cludo yn unol ag Atodlen 1—
(a) cael eu dinistrio;
(b) cael eu trin fel bod y risg o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu
(c) cael eu gwaredu fel na fydd anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
Pwerau arolygwyr, etc.
6 

(1) Pan fydd arolygydd wedi'i fodloni bod cyfrwng cludo, neu unrhyw offer sy'n cael ei gario gyda'r cyfrwng cludo, naill ai—
(a) heb gael eu glanhau a'u diheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu
(b) bod angen eu glanhau a'u diheintio am y gallai beri risg o drosglwyddo clefyd,
caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r offer.
(2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol—
(a) gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r offer nes iddynt gael eu glanhau a'u diheintio;
(b) gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(c) ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r offer o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu
(ch) ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo waredu'r holl borthiant yr oedd yr anifeiliaid yn gallu mynd ato, yr holl welltach, yr holl garthion a'r holl ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y ffordd a nodir yn yr hysbysiad.
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid cyflawni'r gwaith glanhau a diheintio yn unol ag Atodlen 1 oni bai bod yr hysbysiad yn pennu dull gwahanol o lanhau a diheintio.
(4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gyflawni gwaith glanhau a diheintio yn unol ag erthyglau 3 neu 4 yn mynnu bod y person hwnnw yn ei lanhau a'i ddiheintio fel a bennir yn yr hysbysiad yn lle gwneud hynny yn unol ag Atodlen 1 os yw'r arolygydd wedi'i fodloni bod hynny'n angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid.
(5) Pan na fydd person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo .
Gorfodi
7 
Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
Diddymu a diwygio
8 

(1) Mae'r Gorchmynion a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru ac i'r graddau a nodir yn nhrydedd golofn y tabl hwnnw.
(2) Mae'r Gorchymyn yn Rhan II o Atodlen 3 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r Rhan honno i'r graddau y mae'n gymwys yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
J. E. Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
20 Gorffennaf 2001Alun Michael
Gweinidog Gwladol
20 Gorffennaf 2001
ATODLEN 1
Glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo
Erthyglau 3, 4, 5 a 6
Lefel y glanhau a'r diheintio
1 
Rhaid cyflawni pob gwaith glanhau a diheintio er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo clefyd cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau
2 

(1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd—
(a) rhaid glanhau'r canlynol p'un a ydynt wedi'u baeddu neu beidio: holl wynebau mewnol y rhannau hynny o'r cyfrwng cludo y cludir yr anifeiliaid ynddynt, a phob rhan o'r cyfrwng cludo y mae'n bosibl bod yr anifeiliaid wedi cael mynd ati yn ystod y daith; a
(b) rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi'u baeddu—
(i) unrhyw ffitiadau datodadwy nas defnyddiwyd yn ystod y daith,
(ii) unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo,
(iii) unrhyw offer a gariwyd yn ystod y daith i'w ddefnyddio gyda'r anifail.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludir mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi'i faeddu neu beidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.
Y dull glanhau
3 
Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw welltach, unrhyw garthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, ac yna eu glanhau â dŵr, stêm neu gyfansoddion cemegol pan fo'n briodol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes eu bod yn rhydd o faw.
Diheintio ar ôl glanhau
4 
Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.
ATODLEN 2
Yr amgylchiadau y bydd erthygl 4 yn gymwys odanynt
Erthyglau 3 a 4
Taith a wneir o fewn un fenter ffermio
1 
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys os gwneir y daith o fewn un fenter ffermio o dan un berchenogaeth.
Cludo ceffylau penodol
2 
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys mewn perthynas â chludo—
(a) ceffylau a ddefnyddir at ddibenion hamdden neu chwaraeon yn unig; neu
(b) ceffylau a gedwir mewn stablau a drwyddedir gan Glwb y Jocis yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd rasio, neu yn ôl ac ymlaen i fan lle mae ceffylau sy'n cael eu cadw yn y stablau hynny yn cael eu hyfforddi ar gyfer rasio.
Teithiau rhwng yr un dau bwynt
3 

(1) Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys mewn perthynas â chyfrwng cludo sy'n cael ei ddefnyddio, yn ystod un diwrnod, ar gyfer cludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt yn unig, heblaw rhwng marchnadoedd, ar yr amod bod y cyfrwng cludo yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 1 o fewn 24 awr ar ôl y daith olaf ar gyfer cludo anifail yn ystod y diwrnod hwnnw, a beth bynnag cyn i'r cyfrwng cludo gael ei ddefnyddio eto mewn cysylltiad â chludo unrhyw anifail neu beth.
(2) Yn y paragraff hwn mae “taith olaf” yn cynnwys—
(a) taith a ddechreuir ond nad yw wedi'i chwblhau cyn hanner nos ar y diwrnod o dan sylw; a
(b) yn achos anifail carnog a gariwyd ac sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad yn ystod yr hwyr ar y diwrnod hwnnw neu sy'n parhau hyd yr hwyr ar y diwrnod hwnnw, taith a ddechreuir cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos neu beidio.
Dadlwytho dros dro
4 
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys yn achos cyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi'u dadlwytho ohono yn unswydd i'w porthi neu i'w dyfrio, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac sydd wedyn wedi'u hail-lwytho.
ATODLEN 3
Erthygl 7
Rhan 1 Diddymiadau

Yr offeryn a ddiddymir Cyfeirnod Graddau'r diddymu
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid 1927 Gorchmynion a Rheolau Statudol 1927/289 Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn y Gweinidog dyddiedig 9 Mai 1927 yn diwygio Gorchymyn Cludo Anifeiliaid 1927 Gorchmynion a Rheolau Statudol 1927/399 Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Ceffylau (Cludiant Morol) 1952 O.S. 1952/1291 Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Ffyrdd a Rheilffyrdd) 1975 O.S. 1975/1024 Erthyglau 15 ac 16 ac Atodlen 3
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 O.S. 1977/944 Erthyglau 4(1), 5(6), 5(7), 6 a 15
Gorchymyn Clefydau Dofednod 1994 O.S. 1994/3141 Erthygl 10(2)
Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 O.S. 1997/1480 Erthygl 15(2) a Pharagraff 26 o Atodlen 1
Rhan II Diwygiadau
Yng Ngorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11), yn lle
(a) amodau 4 a 5 o Atodlen 2,
(b) amodau 3 a 4 o Atodlen 3,
(c) amodau 3 a 4 o Atodlen 4,
(ch) amodau 5 a 6 o Atodlen 5,
(d) amodau 4 a 5 o Atodlen 6,
(dd) amodau 5 a 6 o Atodlen 7,rhoddir ym mhob achos y canlynol—“
 Means of transport must be cleansed and disinfected in accordance with the Transport of Animals (Cleansing and Disinfection) (Wales) Order 2001”.
