
2001 Rhif 2628 (Cy. 217 )
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud 19 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 20 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) (Diwygio) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2001.
Diwygiad i Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) 2001
2 
Mae rheoliad 1(2) o Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) 2001 yn cael ei ddiwygio drwy roi'r geiriau “30th September 2001” yn lle'r geiriau “20th July 2001”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedaethol Cymru
19 Gorffennaf 2001