
2001 Rhif 2627 (Cy. 216 )
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001
Wedi'u gwneud 19 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 20 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2001.
Diwygiadau
2 
Rhoddir y dyddiad “23rd September 2001” yn lle'r dyddiad “23rd July 2001” yn y darpariaethau canlynol —
(a) paragraff 3A(3) o Ran VI o Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994);
(b) rheoliad 7(7) a rheoliad 8(8) o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 ); ac
(c) paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ar 19 Gorffennaf 2001