
2001 Rhif 2538 (Cy.213) (C.83)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 10 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 :
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Y diwrnodau penodedig
2 

(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon i rym mewn perthynas â Chymru ar 31 Gorffennaf 2001.
(2) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (4) o'r erthygl hon i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 2001.
(3) Dyma'r darpariaethau—
(a) Adran 63 (cymeradwyo cyrsiau);
(b) Adran 66 (ymwelwyr ar gyfer cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol);
(c) Adran 71 (rheolau) i'r graddau y mae'n gymwys i adrannau 63 a 66 o'r Ddeddf.
(4) Dyma'r darpariaethau—
(a) Adran 67 (swyddogaethau'r Gweinidog priodol);
(b) Adran 70(1) (swyddogaethau'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol yn darfod mewn perthynas â Chymru).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Islywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Gorffennaf 2001