
2001 Rhif 2537 (Cy.212)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 10 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau amaethyddol, y mae'r cyfan neu ran ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru, ac y mae ceisiadau am daliad yn unol a'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli yn cael eu gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “blwyddyn IACS” (“IACS year”) yw cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 16 Mai ac ystyr “blwyddyn IACS 2001” (“IACS year 2001”) yw cyfnod felly yn dechrau ar 16 Mai 2001;
 ystyr “cynllun IACS” (“IACS scheme”) yw un o gynlluniau'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli Cymunedol a nodir yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Cyngor 3508/92; mae i “daliad” yr un ystyr â “holding” yn Rheoliad y Cyngor Rhif 3508/92;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn 3887/92” (“Commission Regulation 3887/92”) yw Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3887/92 sy'n nodi'r rheolau ar gyfer cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC Rhif 229/95, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1648/95, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2015/95), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 613/97, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1678/98), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2801/1999 a Rheoliad y Comisiwn 2721/2000; ac
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3508/92) sy'n sefydlu system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 3235/1994, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 3072/1995), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1577/96, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2466/96, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 613/97, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1593/2000 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 495/2001).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson y cyfeirir penderfyniad ato, ceisydd ar gyfer adolygiad neu berson sy'n apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw olynydd, ysgutor, ymddiredolwr mewn methdaliad, derbynnydd neu ddatodwr i berson neu geisydd o'r fath.
Cymhwyso
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 isod mewn perthynas â daliadau a weinyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993.
Penderfyniadau y mae modd eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn
4 
Gellir adolygu'r penderfyniadau canlynol ac apelio yn eu herbyn yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn —
(a) penderfyniad, o dan Reoliad y Comisiwn 3887/92 neu yn unol ag ef (gan gynnwys unrhyw beth a wneir yn unol ag Erthygl 11.1 o'r Rheoliad), gan y Cynulliad Cenedlaethol i wrthod, gostwng neu adennill (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) taliad o dan unrhyw gynllun a bennir yn yr Atodlen ar gyfer blwyddyn IACS 2001 neu unrhyw flwyddyn IACS wedi hynny, a chan gynnwys taliadau a wneir o dan y Cynllun Tir Mynydd yn 2001; a
(b) penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chwotau defaid a gwartheg at ddibenion y polisi amaethyddol cyffredin, ond dim ond ynghylch ceisiadau am gymorthdaliadau ar gyfer blwyddyn IACS 2001 neu unrhyw flwyddyn IACS wedi hynny ac nid ynghylch unrhyw flynyddoedd cyn hynny.
Adolygu penderfyniadau – Cam 1
5 

(1) Caiff person y mae penderfyniad a grybwyllir yn rheoliad 4 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r person hwnnw am y penderfyniad i'w adolygu, am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i gais am adolygiad fod yn ysgrifenedig ar ffurf a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo nodi —
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd, ac ar ba sail y ceisir yr adolygiad;
(b) y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati;
(c) y penderfyniad sydd i'w adolygu a'i ddyddiad;
(ch) manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a
(d) y newid yn y penderfyniad a geisir.
(3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Swyddfa Ranbarthol y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol ynddi.
6 

(1) Pan wneir cais o dan reoliad 5 uchod, rhaid i bennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r penderfyniad a bennir ynddo.
(2) Wrth adolygu penderfyniad caiff y pennaeth y Swyddfa Ranbarthol—
(a) ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a ddangosir gan y ceisydd (p'un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael adeg y penderfyniad gwreiddiol neu beidio);
(b) gwahodd y ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r ceisydd yn credu ei bod yn briodol; ac
(c) rhoi cyfle i'r ceisydd i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.
7 

(1) Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 6 uchod caiff pennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol —
(a) cadarnhau'r penderfyniad;
(b) diwygio neu newid y penderfyniad mewn unrhyw agwedd y mae yn credu ei bod yn briodol; neu
(c) diddymu'r penderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.
(2) Rhaid i bennaeth y Swyddfa Ranbarthol roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.
(3) Mewn achos pan na fydd penderfyniad yn darparu'r rhwymedi a bennir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 5(2)(d) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig cyfle i'r ceisydd gael adolygiad o'i benderfyniad o dan y rheoliad hwn gan yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol.
Adolygu penderfyniadau – Cam 2
8 

(1) Caiff person y mae penderfyniad a adolygwyd yn unol â rheoliad 7 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad a adolygwyd, am adolygiad pellach o'r penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i gais am adolygiad pellach fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu —
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd, ac ar ba sail y ceisir yr adolygiad;
(b) y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati;
(c) y penderfyniad gan y Swyddfa Ranbarthol sydd i'w adolygu a'i ddyddiad;
(ch) manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad pellach arnynt; a
(d) y newid yn y penderfyniad a geisir .
(3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ wedi'i farcio “ar gyfer yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol ”.
9 

(1) Pan wneir cais o dan reoliad 8 uchod, rhaid i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r penderfyniad a bennir ynddo.
(2) Wrth adolygu penderfyniad caiff yr Uned Apelau —
(a) ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a ddangosir gan y ceisydd (p'un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael adeg y penderfyniad gwreiddiol neu gam cyntaf yr adolygiad neu beidio);
(b) gwahodd y ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r ceisydd yn credu ei bod yn briodol; ac
(c) rhoi cyfle i'r ceisydd i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.
10 

(1) Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 9 uchod caiff Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol —
(a) cadarnhau y penderfyniad;
(b) diwygio neu newid y penderfyniad mewn unrhyw agwedd y mae yn credu ei bod yn briodol; neu
(c) diddymu'r penderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.
(2) Rhaid i'r Uned Apelau roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.
(3) Mewn achos pan na fydd penderfyniad yn darparu'r rhwymedi a bennir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 8(2)(d) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig cyfle i'r ceisydd apelio yn erbyn y penderfyniad a adolygwyd i bersonau a benodir ganddo.
Cam 3 – Apelau i bersonau a apwyntiwyd
11 

(1) Caiff person y mae rheoliad 10(3) yn gymwys iddo, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pen 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod, am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw gan bersonau a benodwyd ganddo.
(2) Pan fydd y penderfyniad sydd i'w adolygu yn benderfyniad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 10(1)(b) neu (c) gall y ceisydd ategu'r cais gwreiddiol o dan reoliad 8(2) uchod fel y bydd natur y penderfyniad hwnnw yn gofyn amdano.
(3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ wedi'i farcio “ar gyfer yr Ysgrifenyddiaeth Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol” a bod y ffi ganlynol wedi'i amgáu gyda'r cais:
(a) £100 yn achos apêl y mae'r ceisydd am gael gwrandawiad llafar ar ei gyfer; a
(b) £50 yn achos apêl y mae'r ceisydd yn fodlon iddo gael ei ystyried heb wrandawiad llafar.
12 

(1) Pan wneir cais o dan reoliad 11, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi y personau hynny y mae yn credu eu bod yn briodol i adolygu'r penderfyniad a rhoi copïau o'r canlynol i'r personau hynny —
(a) y cais;
(b) y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod; ac
(c) unrhyw ddogfen neu nodyn o dystiolaeth a ddangoswyd neu a gymerwyd mewn perthynas ag adolygiad blaenorol.
(2) Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn adolygu'r penderfyniad ac fe gânt —
(a) ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a ddangosir gan y ceisydd neu'r Cynulliad Cenedlaethol (p'un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael adeg y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod neu beidio);
(b) gwahodd y ceisydd a'r Cynulliad Cendlaethol i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r personau a benodir yn credu eu bod yn briodol; ac
(c) rhoi cyfle i'r ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol roi tystiolaeth neu wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu ar lafar yn ddibynnol ar y ffurf o apêl y gofynnodd y ceisydd amdano ac y talodd y ffi briodol ar ei gyfer.
(3) Yn dilyn eu hadolygiad o'r mater rhaid i'r personau a benodir gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a) am eu casgliadau ffeithiol ar y mater; a
(b) am eu argymhellion ynghylch dyfarnu ar y cais gan ystyried y gyfraith sy'n gymwys i'r ffeithiau.
(4) Ar ôl ystyried y materion a adroddir iddynt o dan baragraff (3) uchod caiff y Cynulliad Cenedlaethol —
(a) cadarnhau ei benderfyniad;
(b) diwygio neu newid ei benderfyniad mewn unrhyw fodd y mae yn credu ei fod yn briodol; neu
(c) diddymu ei benderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.
(5) Wrth ddod i'w benderfyniad yn unol â pharagraff (4) uchod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a adroddir iddo gan y personau a benodir o dan y rheoliad hwn ond nid yw yn rhwym i ddilyn y cyfan neu unrhyw ran o'r argymhellion hynny.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn yn ysgrifenedig a phan na fydd yn mabwysiadu'r argymhellion a adroddir iddo, rhaid iddo nodi —
(a) y ffeithiau perthnasol y seilir ei benderfyniad arnynt;
(b) y rhesymau dros y penderfyniad;
(c) ei resymau am beidio â dilyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol argymhellion y personau penodedig; ac
(ch) effaith ei benderfyniadau ar dalu neu beidio â thalu'r cymhorthdal.
(7) Os y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud penderfyniad yn unol a pharagraff (4)(b) neu (c) uchod, rhaid dychwelyd y ffi y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 11(3) uchod i'r ceisydd.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad ar ffurf ffi neu ad-daliad treuliau, i unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (1) uchod, fel y gwel ei bod yn briodol.
Hysbysu Penderfyniadau
13 

(1) Rhaid hysbysu'r ceisydd o unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 6, 9 neu 12 uchod more fuan ag sy'n ymarferol wedi iddo gael ei wneud gan ddefnyddio post y mae dosbarthiad wedi'i gofnodi i'r cyfeiriad a ddangosir yn y cais am adolygiad.
(2) Yn achos penderfyniad o dan reoliad 12, rhaid hysbysu darganfyddiadau ac argymhellion y personau a benodwyd ynghyd â'r penderfyniad.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Gorffennaf 2001
YR ATODLEN
Rheoliad 4


 Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid
 Atodiad Ardal Lai Ffafriol y Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid
 Cynllun Premiwn Arbennig Cig Eidion
 Cynllun Premiwn Buchod Sugno
 Cynllun Taliadau Anarddwys
 Cynllun Taliadau Arwynebedd Tir År
 Cynllun Tir Mynydd
