
2001 Rhif 2536 (Cy.211)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 10 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 1 Medi 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” gan adran 2 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sydd—
(a) yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol â darpariaeth a wnaed gan neu o dan reoliadau a wnaed ar gyfer naill ai Cymru neu Loegr o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988; neu
(b) yn athro neu athrawes gymwysedig yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;
 ystyr “cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach” (“post-graduate FE teacher training course”) yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon sydd—
(a) yn cael ei ddarparu mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; a
(b) wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddarparydd cyrsiau sy'n bodloni unrhyw ddarpariaethau ynghylch cwricwla a meini prawf eraill a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon addysg bellach
3 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach.
(2) Mae'r pŵ er a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan baragraff (1) uchod yn cynnwys pŵ er i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw—
(a) wedi cwblhau cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad yn Lloegr sydd wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
(b) wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn gymwys yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac
(c) wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach ac sydd wedi'i leoli yng Nghymru.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr “cymwys” yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
Amodau
4 

(1) Rhaid peidio â thalu unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson—
(a) sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sydd wedi'i ddylunio'n benodol i alluogi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
(b) sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sy'n arwain person sy'n ei gwblhau'n llwyddiannus i ddod yn athro neu athrawes gymwysedig; neu
(c) sy'n dilyn (ond nad yw wedi cwblhau) cwrs o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.
(2) Rhaid peidio â thalu unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw bryd a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol a chan gynnwys unrhyw fanylion a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid peidio â chymryd bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu pŵ er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.
Amodau Pellach
5 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy odanynt.
(2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1)—
(a) os yw'n ofyniad sydd â'r nod o sicrhau bod diben rhoi'r grant yn cael ei gyflawni;
(b) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiedir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
(c) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.
Swm y grant a thaliadau grant
6 

(1) Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.
(3) Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd—
(a) yn cwblhau yn llwyddiannus, mewn sefydliad achrededig, gwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach o'r un disgrifiad â'r cwrs yn y sefydliad yn Lloegr;
(b) yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac
(c) yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn cyfandaliad neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall yng Nghymru sy'n darparu addysg bellach.
(5) Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Gorffennaf 2001