
2001 Rhif 2501 (Cy.204)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae'r cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad arolygu” (“inspection report”) yw adroddiad ar arolygiad neu arolygiad ardal y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 76(2)(c), 77(3) neu 83(8);
 ystyr “arolygiad” (“inspection”) (heb ragor) yw arolygiad addysg neu hyfforddiant y mae adran 75 wedi dod ag ef o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd, ond nid yw'n cynnwys arolygiad ardal;
 ystyr “arolygiad ardal” (“area inspection”) yw arolygiad o dan adran 83;
 ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn adran 80(3), 84(2) neu 84(3);
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵ yl banc nac yn rhan o wyliau hwy nag wythnos sy'n cael eu cymryd gan y sefydliad o dan sylw (pan fydd yr addysg a'r hyfforddiant sy'n cael eu harolygu yn cael eu darparu mewn sefydliad addysgol); ac
 ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Ysbeidiau arolygu
2 
Mae arolygiadau i'w cynnal o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, ac yna o fewn pob pum mlynedd i'r arolygiad diweddaraf.
Adroddiadau arolygu
3 
Rhaid gwneud adroddiadau arolygu o fewn y cyfnod o 55 niwrnod gwaith o'r dyddiad y mae'r arolygiad neu'r arolygiad ardal yn cael ei gwblhau, neu pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw.
Cynlluniau gweithredu
4 

(1) Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith o'r dyddiad (yn y naill achos neu'r llall) y cafodd y corff o dan sylw gopi o'r adroddiad arolygu.
(2) Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu drwy drefnu ei fod ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y corff o dan sylw, ac ar unrhyw wefan sydd gan y corff hwnnw ar y rhyngrwyd.
(3) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu at bob un o'r canlynol—
(a) y Prif Arolygydd;
(b) y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
(ch) unrhyw awdurdod addysg lleol neu gorff neu berson arall sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer unrhyw addysg neu hyfforddiant a arolygwyd (oni bai mai'r awdurdod, y person neu'r corff hwnnw sydd wedi paratoi'r cynllun gweithredu).
(4) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu hefyd at unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n gofyn am gopi (yn ddi-dâl).
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y corff o dan sylw” (“the body concerned”) yw'r corff y mae'n ofynnol, o dan adran 80(3) neu is-adran (2) neu (3) o adran 84 (yn ôl fel y digwydd), iddo baratoi'r cynllun gweithredu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001