
2001 Rhif 2497 (Cy. 201)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001
Wedi'i wneud 5 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y gall Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried eu hamcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn ac ar ôl cyflawni unrhyw ymgynghori y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.
Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000
2 
Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3(2), ar ôl “Gorchymyn hwn”, mewnosodir—“am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn y Rhan honno ac”; a
(b) yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl paragraff 23, mewnosodir—“
23A 
Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
23B 
Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis. Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001