
2001 Rhif 2496 (Cy. 200)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), 4(2)(d), 4(3), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
2 
Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 yn cael eu diwygio—
(a) drwy fewnosod y canlynol ar ôl “Atodlen 1” ar ddiwedd rheoliad 6(1):“am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn yr Atodlen honno”;
(b) drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 22 o Atodlen 1 :“
22A 
Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd mewn grym am y tro, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
22B 
Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.”; a
(c) drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 13 o Atodlen 2:“
13A 
Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
13B 
Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ac a gofndowyd ar y gofrestr.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001