
2001 Rhif 2359 (Cy. 196)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 26 Mehefin 2001
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n fel arall—
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001;
 ystyr “y Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl” (“the Travelling Expenses and Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau
2 

(1) Diwygir rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (tystysgrifau rhagdalu) yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff (6) yn lle “pharagraffau (7) ac (8)” rhowch “pharagraffau (13) i (15)”.
(3) Yn lle paragraffau (7) ac (8) rhowch y paragraffau canlynol—“
(7) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu a bod y person y talwyd ar ei gyfer ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001—
(a) yn marw; neu
(b) yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn naill ai—
(i) yn marw; neu
(ii) yn aros yn yr ysbyty
yn ystod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (9) gellir gwneud cais am ad-daliad, gan y person hwnnw neu ar ei ran neu gan ei ystâd, yn unol â pharagraffau (13) — (15), mewn perthynas â phob mis cyfan yn dilyn y dyddiad pan fu'r person farw neu pan ddaeth yn breswylydd mewn ysbyty.
(8) Rhaid i'r ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) gael ei gyfrifo fel a ganlyn—
(a) yn achos tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am bedwar mis, un chwarter o'r swm rhagnodedig sydd wedi'i dalu am bob mis cyfan pryd y mae neu yr oedd y dystysgrif ragdalu yn ddilys;
(b) yn achos tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis, deuddegfed ran o'r swm rhagnodedig sydd wedi'i dalu am bob mis cyfan pryd y mae neu yr oedd y dystysgrif ragdalu yn ddilys;
ac at ddibenion y cyfrifiadau hyn, ystyr “mis cyfan” yw mis sy'n dechrau union fis ar ôl y dyddiad y daeth y dystysgrif ragdalu yn ddilys ac yn diweddu ar y dyddiad yn union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.
(9) Ym mharagraff (7), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gellir gwneud cais am ad-daliad mewn perthynas ag ef.
(10) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu mewn perthynas â thystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis a bod y person y gwnaed y taliad ar ei gyfer ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 ac yn ystod y cyfnod perthnasol a ddiffinnir ym mharagraff (12)—
(a) yn dod yn berson y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu
(b) yn dod yn berson sydd â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988,
gall cais am ad-daliad gael ei wneud, gan neu ar ran y person hwnnw yn unol â pharagraffau (13) i (15).
(11) Swm yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) fydd y gwahaniaeth rhwng y swm rhagnodedig a dalwyd a'r swm a gafodd ei ragnodi am dystysgrif ragdalu a oedd yn ddilys am bedwar mis ar y dyddiad y talwyd y swm rhagnodedig.
(12) Ym mharagraff (10) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o dri mis sy'n dilyn yn union ar ôl y mis y gellir gwneud cais o dan baragraff (6) mewn perthynas ag ef.
(13) Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Awdurdod Iechyd a gafodd y swm rhagnodedig a chyda hwy rhaid cynnwys y dystysgrif (os cafodd un ei rhoi) a datganiad i ategu'r cais, a rhaid i'r cais ac unrhyw ad-daliad gael ei wneud mewn unrhyw fodd ac o dan unrhyw amodau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15) rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei wneud os bydd y person y talwyd y swm rhagnodedig mewn perthynas ag ef—
(a) yn marw neu'n dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn yn marw, o fewn 24 mis o ddyddiad ei farwolaeth; neu
(b) â thystysgrif ragdalu ddilys am bedwar mis ac yn dod yn berson—
(i) y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu
(ii) â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988
o fewn pedwar mis i'r dyddiad y daw'r dystysgrif ragdalu yn ddilys; neu
(c) â thystysgrif ragdalu ddilys am 12 mis ac yn dod yn berson—
(i) y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu
(ii) â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988
o fewn saith mis i'r dyddiad y daw'r dystysgrif ragdalu yn ddilys; neu
(ch) yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac yn aros yno hyd nes y bydd y dystysgrif ragdalu yn dirwyn i ben, o fewn tri mis ar ôl iddi ddirwyn i ben.
(15) Os gwneir cais o dan y rheoliad hwn y tu allan i'r terfynau amser a bennir ym mharagraff (14) mewn perthynas â marwolaeth sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 neu mewn perthynas â pherson sy'n dod yn berson y mae paragraff 14(b) i (ch) yn gymwys iddo ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001, rhaid i'r Awdurdod Iechyd ei dderbyn os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod achos da dros yr oedi wrth gyflwyno'r cais.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Mehefin 2001