
2001 Rhif 2356 (Cy.194)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 26 Mehefin 2001
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio)(Cymru) 2001, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001
Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
2 

(1) Caiff Rheoliadau Tatws sy'n deillio o'r Aifft 1998 eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “the Decision” rhoddir—“
 “the Decision” means Commission Decision 96/301/EC authorising Member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomanas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt) as amended by the instruments listed in the Schedule to these Regulations;”.
(2) Ar ôl rheoliad 6, mewnosodir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mehefin 2001
YR ATODLEN
Atodlen Newydd i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
Rheoliad 2(3)
“
SCHEDULE
Instruments amending Commission Decision 96/301/EC
Regulation 2


Instrument Reference
Commission Decision 98/105/EC OJ No. L25, 31.1.98, p.101
Commission Decision 98/503/EC OJ No. L225, 12.8.98, p.34
Commission Decision 99/842/EC OJ No. L326, 18.12.99, p.68
Commission Decision 2000/568/EC OJ No. L238, 22.9.00, p.59”