
2001 Rhif 2354 (Cy.192) (C.80)
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 29 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 98 o'r Ddeddf (cyllido unigolion sy'n darparu gofal drwy daliadau uniongyrchol) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mehefin 2001