
2001 Rhif. 2302 (Cy. 190)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU
Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001
Wedi'i gwneud 26 Mehefin 2001
Yn dod i rym 27 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cendedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 57(6) a 63(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Mehefin 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Diddymir trwy hyn Reoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001.
Arwyddwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Dyddiedig 26 Mehefin 2001