
2001 Rhif 2293 (Cy. 181)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001
Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(7), (8), (9) ,105(2) a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Enwi, chychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol y mae adran 31 o'r Ddeddf (trefniadau amgen yn achos awdurdodau lleol penodol) yn gymwys iddo;
 ystyr “cynigion” (“proposals”) yw cynigion o dan adran 31 o'r Ddeddf ar gyfer gweithredu trefniadau amgen;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen
3 

(1) Er mwyn llunio cynigion rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phersonau eraill ynddi sydd â buddiant, a rhaid iddo gydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) wrth gynnal yr ymgynghori hwnnw.
(2) Wrth gynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod lleol, os oes mwy nag un math o drefniadau amgen yn cael ei ganiatáu gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf:
(a) disgrifio a mynegi mewn ffordd deg a chytbwys bob un o'r mathau o drefniadau amgen sy'n cael eu caniatáu am y tro gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf;
(b) sicrhau bod gan etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phartïon eraill ynddi sydd â buddiant, yn cael cyfle i fynegi eu dewis yn glir o blaid unrhyw un o'r mathau hynny o drefniadau amgen; a
(c) defnyddio cyfuniad o ddulliau ymgynghori ansoddol a meintiol.
(3) Wrth gynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod lleol (p'un a oes mwy nag un math o drefniadau amgen yn cael ei ganiatáu gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf neu beidio):
(a) sicrhau bod pob etholwr lleol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phartïon eraill ynddi sydd â buddiant, yn cael cyfle i ymateb i'r ymgynghori hwnnw; a
(b) peidio â chynnwys yn yr ymgynghori hwnnw unrhyw ymgynghori y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei gynnal er mwyn cyflwyno sylwadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefnu bod math penodol o drefniadau amgen ar gael mewn rheoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf.
(4) Wrth lunio ei gynigion, rhaid i awdurdod lleol—
(a) penderfynu pa fath o drefniadau amgen sydd i'w gynnwys yn y cynigion; a
(b) cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynigion—
(a) datganiad (drwy gyfeirio at reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 32 o'r Ddeddf) ynghylch y math penodol o drefniadau amgen y mae'r cynigion yn ymwneud â hwy;
(b) disgrifiad o rolau'r awdurdod ei hun o dan y trefniadau arfaethedig;
(c) datganiad ynghylch y nifer o bwyllgorau ac is-bwyllgorau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu sefydlu ar gyfer cyflawni'r swyddogaethau y mae'r awdurdod yn bwriadu iddynt gael eu cyflawni gan y pwyllgorau a'r is-bwyllgorau hynny o dan y trefniadau amgen arfaethedig;
(ch) disgrifiad o'r trefniadau arfaethedig sydd i'w cynnwys yn y trefniadau amgen arfaethedig ar gyfer gweithredu pwyllgorau neu is-bwyllgorau i adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu i graffu arnynt mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod;
(d) amserlen mewn perthynas â gweithredu'r cynigion;
(dd) manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn gweithredu'r cynigion;
(e) disgrifiad o unrhyw nodweddion eraill ar y trefniadau amgen arfaethedig y bydd yr awdurdod yn penderfynu eu cynnwys yn y cynigion; ac
(f) unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani mewn cyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6) Rhaid i awdurdod lleol anfon y canlynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a) copi o'i gynigion; a
(b) datganiad sy'n disgrifio—
(i) y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phersonau eraill ynddi sydd â buddiant, yn unol ag adran 31(5) o'r Ddeddf a pharagraff (1) uchod;
(ii) canlyniad yr ymgynghori hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y cynigion;
(iii) y rhesymau pam mae'r awdurdod yn credu y bydd ei gynigion yn fwy addas ar gyfer yr amgylchiadau yn yr awdurdod hwnnw a'i ardal nag unrhyw fath o weithrediaeth a bennir yn adran 11 o'r Ddeddf neu odani; a
(iv) y rhesymau pam mae'r awdurdod yn credu y byddai ei gynigion, o'u gweithredu, yn debyg o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, tryloyw ac atebol.
(7) Rhaid i awdurdod lleol weithredu ei gynigion yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001