
2001 Rhif 2291 (Cy.179)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001
Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Rheoliadau 1990” (“the 1990 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990).
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
2 

(1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
(2) Nid yw swyddogaethau—
(a) gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir—
(i) wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu
(ii) heblaw am weithrediaeth i'r awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; a
(b) penderfynu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath, yn ddarostyngedig iddynt,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(3) Nid yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi—
(a) yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir fel y'i crybwyllir ym mharagraff (2)(a);
(b) yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad, teler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt, neu
(c) yn erbyn unrhyw doriad arall mewn perthynas â mater na fyddai'r swyddogaeth o benderfynu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod mewn perthynas ag ef,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(4) Nid yw swyddogaeth—
(a) diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a grybwyllir ym mharagraff (2), nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu
(b) diddymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu swyddogaeth diwygio, diddymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Nid yw swyddogaethau penderfynu—
(a) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy—
(i) o dan is-adran (5) o adran 3 (treuliau cadeirydd) o Ddeddf 1972;
(ii) o dan is-adran (4) o adran 5 (treuliau is-gadeirydd) o'r Ddeddf honno;
(iii) o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno;
(iv) o dan adran 175 (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd) o'r Ddeddf honno;
(b) yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth) o'r Ddeddf honno;
(c) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodrath Leol a Thai 1989, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;
(ch) a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu rhoi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a
(d) pan gaiff tâl ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(7) Ni fydd adran 101 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).
(8) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nid yw swyddogaeth—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, a
(b) gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Oni ddarperir fel arall gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol a all, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gael ei gyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Ym mharagraffau (1) a (9), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad a gynhwysir mewn Deddf leol neu mewn is-ddeddfwriaeth .
Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
3 

(1) Fe all y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod (ond nid oes angen iddynt fod felly).
(2) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag cyflawni'r swyddogaethau hynny a ddirprwyir i weithrediaeth o'r awdurdod.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig
4 

(1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—
(a) llunio neu baratoi plan, cynllun neu strategaeth, o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;
(b) llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu
(c) llunio neu baratoi unrhyw blan, cynllun neu strategaeth arall y mae eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 5(1), yn fater i'r awdurdod benderfynu arno,
rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“camau paragraff (3)”) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(2) Ac eithrio camau paragraff (3), rhaid i unrhyw swyddogaeth o fath a grybwyllir ym mharagraff (1) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath.
(3) Dyma'r camau a ddynodir gan y pararaff hwn—
(a) rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r weithrediaeth ailystyried unrhyw blan, cynllun neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y weithrediaeth i'r awdurdod i gael eu hystyried;
(b) diwygio unrhyw blan, cynllun neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y weithrediaeth i'r awdurdod i gael eu hystyried;
(c) cymeradwyo unrhyw blan, cynllun neu strategaeth (boed ar ffurf drafft neu beidio) er mwyn eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw un o Weinidogion y Goron, sef cynllun neu strategaeth y mae'n ofynnol i unrhyw ran ohonynt gael ei chyflwyno felly;
(ch) mabwysiadu'r plan, y cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).
(4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw blan, cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (boed wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym)—
(a) rhaid iddi fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r diddymu—
(i) yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion y Cynulliad Cenedlaethol neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â phlan, cynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael eu cymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu
(ii) wedi'u hawdurdodi gan ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau ar gyfer cymeradwyo neu fabwysiadu'r plan, y cynllun neu'r strategaeth, yn ôl fel y digwydd; a
(b) rhaid iddi beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i unrhyw raddau eraill.
(5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), rhaid i swyddogaeth gwneud cais—
(a) o dan is-adran (5) o adran 135 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993; neu
(b) o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II) neu adran 43 (cydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer rhai gwarediadau nad ydynt o fewn adran 32) o Ddeddf Tai 1985,
fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.
(7) Rhaid i swyddogaeth gwneud cais o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni—
(a) swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;
(b) y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—
(a) cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 49, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 neu unrhyw un o adrannau 43 i 51 neu adran 61 o'r Ddeddf honno, naill ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu
(b) rhoi praesept o dan Bennod IV o'r Rhan honno,
rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“camau paragraff (11)”) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Ac eithrio camau paragraff (11), rhaid i unrhyw swyddogaeth o fath a grybwyllir ym mharagraff (9) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i'r awdurdod.
(11) Dyma'r camau a ddynodir gan y paragraff hwn—
(a) paratoi'r canlynol i'w cyflwyno i'r awdurdod i gael eu hystyried—
(i) amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;
(ii) y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;
(b) ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;
(c) cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod i gael eu hystyried.
Cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdodau
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, heblaw am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod), beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4—
(a) os yw'n rhesymol edrych ar yr amgylchiadau sy'n golygu bod angen gwneud y dyfarniad fel amgylchiadau brys; a
(b) os yw'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo wedi sicrhau datganiad mewn ysgrifen gan gadeirydd pwyllgor trosolygu a chraffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath, neu os yw cadeirydd pob pwyllgor trosolygu a chraffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, gan gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, gan yr is-gadeirydd fod angen i'r dyfarniad gael ei wneud ar frys.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu perthnasol” yw pwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod o dan sylw y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.
(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2) gyflwyno adroddiad i'r awdurdod y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion—
(a) y dyfarniad;
(b) yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odanynt; ac
(c) y rhesymau dros y dyfarniad.
(5) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
ATODLEN 1
SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD
Rheoliad 2


(1) (2)
Y Swyddogaeth Y Ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio wlad a thref a rheoli datblygu 

1 
Y pŵer i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio. Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio . Gwlad a Thref 1990 (p.8)

2 
Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen. Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

3 
Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni. Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

4 
Y pŵer i wrthod penderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio. Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

5 
Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.

6 
Y pŵer i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall. Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)).

7 
Y pŵer i wneud penderfyniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir. Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).

8 
Y pŵer i wneud cytundeb sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir. Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

9 
Y pŵer i roi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig. Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

10 
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau. Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

11 
Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion. Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992).

12 
Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir. Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

13 
Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir. Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

14 
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop. Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

15 
Y pŵer i roi hysbysiad gorfodi. Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

16 
Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheoli cynllunio. Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

17 
Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig. Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).

18 
Y ddyletswydd i benderfynu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd gweithredol Rhan I neu II, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl fel y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt. Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

19 
Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn. Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

20 
Y pŵer i benderfynu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig. mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9). Adrannau 16(1) a (2), 17, 27(2) a 33(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Adeiladau

21 
Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth. Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno).

22 
Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth. Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Adrannau 13(1) a 14(1) a (4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)1990 a rheoliadau 3 i 6 ac 13 o Rhestredig ac Adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o Gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol; Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

23 
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig. Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

24 
Y pŵer i roi hysbysiad gorfodi mewn perthynas â dymchwel adeilad sydd heb ei restru mewn ardal gadwraeth. Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

25 
Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio. Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

26 
Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig. Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990.

27 
Y pŵer i wneud gwaith brys. Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

28 
pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau. Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

29 
pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau. Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

30 
pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol. Adran 117 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33).

31 
Y pŵer i gyflwyno gorchmynion prynu. Adrannau 137—144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

32 
Pwerau yn gysylltiedig â gorchmynion malltod. Adrannau 149—171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

33 
Y pŵer i awdurdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau. Adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).
B. Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy) 

1 
Y pŵer i roi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir yn safle carafanau (“trwyddedau safle”). Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62).

2 
Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla. Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49).

3 
Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. 
(a) o ran cerbydau hacni, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 &11 Vict. p.89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 & 39 Vict. p.55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p.67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57);
(b) o ran hurio preifat, adrannau 48, 57, 68, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

4 
Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

5 
Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

6 
Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau. Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963 (p.2).

7 
Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau. Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963.

8 
Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i gilydd. Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Gamblo a Loteriau 1963 .

9 
Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd sydd â pheiriannau chwarae. Atodlen 9 i Ddeddf Gamblo 1968 (p. 65)).

10 
Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hybu loterïau. Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32).

11 
Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd lle darperir difyrion â gwobrau. Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1976 ).

12 
Y pŵer i roi trwyddedau sinema a thrwyddedau clybiau sinema. Adran 1 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13).

13 
Y pŵer i roi trwyddedau theatr. Adrannau 12 i 14 o Ddeddf Theatrau 1968 (p. 54).

14 
Y pŵer i roi trwyddedau adloniant. Adran 12 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p. 12), adran 79 o Ddeddf Trwyddedu 1964 (p. 26), adrannau 1 i 5 a 7 o Ddeddf Lleoedd Adloniant Preifat (Trwyddedu) 1967 (p. 19) a Rhannau I a II o'r Atodlen iddi, a Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) ac Atodlenni 1 a 2 iddi.

15 
Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw. Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.

16 
Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth. Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).

17 
Y pŵer i drwyddedu safleoedd ar gyfer acwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis. Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

18 
Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser. Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53).

19 
Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd. Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.

20 
Y pŵer i drwyddedu caffis nos a siopau prydau parod. Adran 2 o Ddeddf Tai Lluniaeth Hwyr y Nos 1969 (p. 53).

21 
Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth. Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972 (p. 66)).

22 
Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig. Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedu Helgig 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adrannau 12(3) a 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1874 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).

23 
Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu safleoedd ar gyfer paratoi bwyd. Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).

24 
Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap. Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p.69).

25 
Y pŵer i roi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon. Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p.52).

26 
Y pŵer i roi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer eisteddleoedd rheoledig mewn meysydd chwaraeon. Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).

27 
Y pŵer i roi trwyddedau tân. Adran 5 o Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 (p.40)

28 
Y pŵer i drwyddedu safleoedd ar gyfer bridio cwn. Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).

29 
Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes. Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35); adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43); Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.

30 
Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid. Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p.38).

31 
Y pŵer i drwyddedu sŵ au. Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Sŵ au 1981 (p.37)).

32 
Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus. Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p.38).

33 
Y pŵer i drwyddedu iardiau naceriaid. Adran 4 o Ddeddf Lladd-dai 1974. Gweler hefyd Orchymyn Sgîl-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646).

34 
Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant. Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p.33), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1963 (p.37).

35 
Y pŵer i gymeradwyo safleoedd ar gyfer gweinyddu priodasau. Rhan 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76) a Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995 (O.S. 1995/510).

36 
Y pŵer i gofrestru tir comin neu lawntiau trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pŵer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig—
(a) cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn effeithio arnynt; neu
(b) gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p.118). Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tiroedd Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).

37 
Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin. Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471).

38 
Y pŵer i drwyddedu personau i gasglu ar gyfer achosion elusennol ac achosion eraill. Adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916 (p.31) ac adran 2 o Ddeddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939 (p. 44)).

39 
Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd. Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

40 
Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd. Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22).

41 
Y pŵer i drwyddedu asiantaethau ar gyfer cyflenwi nyrsys. Adran 2 o Ddeddf Asiantaethau Nyrsys 1957 (p.16).

42 
Y pŵer i roi trwyddedau ar gyfer symud moch. Erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11).

43 
Y pŵer i drwyddedu gwerthu moch. Erthygl 13 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

44 
Y pŵer i drwyddedu canolfannau casglu ar gyfer symud moch. Erthygl 14 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

45 
Y pŵer i roi trwydded i symud gwartheg o farchnad. Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871).

46 
Y pŵer i ganiatáu gosod sgip adeiladwr ar briffordd. Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980 .

47 
Y pŵer i drwyddedu plannu, cadw a chynnal coed etc. ar ran o'r briffordd. Adran 142 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

48 
Y pŵer i drwyddedu gweithfeydd mewn perthynas ag adeiladau etc. sy'n rhwystro'r briffordd. Adran 169 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

49 
Y pŵer i gydsynio i ollyngiadau neu gloddiadau mewn strydoedd. Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

50 
Y pŵer i hepgor y rhwymedigaeth i godi palis neu ffens. Adran 172 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.

51 
Y pŵer i gyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd. Adran 178 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.

52 
Y pŵer i gydsynio i adeiladu selerydd etc. o dan y stryd. Adran 179 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

53 
Y pŵer i gydsynio i wneud agoriadau i selerydd etc. o dan strydoedd, a goleuadau ac awyryddion ar y pafn. Adran 180 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

54 
Y pŵer i ganiatáu defnyddio rhannau o adeiladau ar gyfer storio selwloid. Adran 1 o Ddeddf Ffilm Selwloid a Sinematograff 1922 (p.35).

55 
Y pŵer i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion cig. Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082).

56 
Y pŵer i gymeradwyo safleoedd i gynhyrchu briwgig neu baratoadau cig. Rheoliad 4 o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205).

57 
Y pŵer i gymeradwyo sefydliadau llaeth. Rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(O.S. 1995/1086).

58 
Y pŵer i gymeradwyo sefydliadau cynhyrchion wyau. Rheoliad 5 o Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520).

59 
Y pŵer i roi trwyddedau i siopau cigyddion manwerthol sy'n cyflawni gweithrediadau masnachol mewn perthynas â chig amrwd sydd heb ei lapio ac sy'n gwerthu neu'n cyflenwi cig amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta. Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3341)).

60 
Y pŵer i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion pysgod. Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994).

61 
Y pŵer i gymeradwyo canolfannau dosbarthu neu ganolfannau puro. Rheoliad 11 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

62 
Y pŵer i gofrestru llongau pysgota y mae perdys neu fwlysgiaid yn cael eu coginio arnynt. Rheoliad 21 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

63 
Y pŵer i gymeradwyo llongau ffatri a sefydliadau cynhyrchion pysgodfeydd. Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

64 
Y pŵer i gofrestru marchnadoedd ocsiwn a marchnadoedd cyfanwerthu. Rheoliad 26 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw (Hylendid) 1998.

65 
Y ddyletswydd i gadw cofrestr o safleoedd busnesau bwyd. Rheoliad 5 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991 (O.S. 1991/2828).

66 
Y pŵer i gofrestru safleoedd busnesau bwyd. Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) a Rheoliad 9 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991.
C. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith 
Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r “darpariaethau statudol perthnasol” o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogewlch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni heblaw yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr. Rhan I o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37).
CH. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau 

1 
Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol. Adran 8(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2).

2 
Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru. Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

3 
Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned. Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4 
Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau. Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

5 
Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau. Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

6 
Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

7 
Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd. Paragraff 4(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1978 (p. 10).

8 
Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio. Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

9 
Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

10 
Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau. Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

11 
Y pŵer i dalu costau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol. Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

12 
Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau. Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.

13 
Y ddyletswydd i ddatgan bod yna le gwag mewn swydd mewn rhai achosion. Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

14 
Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol. Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15 
Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned. Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16 
Y pŵer i benderfynu ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt. Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).

17 
Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).

18 
Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, OS 1999/450. Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, OS 1999/450.
D. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion 

1 
Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

2 
Y pŵer i newid enw cymuned. Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

3 
Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn henadur mygedol. Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4 
Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol. Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
DD. Y pŵer i wneud, diwygio, diddymu neu ail-ddeddfu is-ddeddfau Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac Adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30).
E. Y pŵer i hybu neu i wrthwynebu Mesruau lleol neu bersonol. Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
F. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc. 

1 
Swyddogaeth sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc. Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 (p. 11).

2 
Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Dynion Tân sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir yn aelodau o frigadau tân a gynhelir yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947. Adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 (10 ac 11 Geo.6 p. 41).
FF. Swyddogaethau amrywiol 

1 
Y pŵer i greu llwybrau troed a llwybrau ceffylau. Adrannau 25 a 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).

2 
Y pŵer i gau llwybrau troed a llwybrau ceffylau. Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

3 
Y pŵer i wyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau. Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

4 
Y ddyletswydd i ddatgan a diogelu hawliau i'r cyhoedd ddefnyddio a mwynhau priffyrdd. Adran 130 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

5 
Pwerau sy'n ymwneud â symud pethau a ollyngwyd ar briffyrdd mewn modd sy'n eu gwneud yn niwsans. Adran 149 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

6 
Y ddyletswydd i barhau i adolygu map a datganiad diffiniol. Adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

7 
Y ddyletswydd i ailddosbarthu ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus. Adran 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

8 
Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl fel y digwydd). Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (O.S. 1996/590).

9 
Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr. Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38).

10 
Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed. Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Coed 1999 (OS. 1999/1892).

11 
Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd pwysig. Rheoliadau Gwrychoedd 1997 (O.S. 1997/1160).

12 
Y pŵer i wneud gorchymyn calchbalmant. Adran 34(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

13 
Y pŵer i wneud rheolau sefydlog. Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff 42 i Atodlen 12 iddi.

14 
Y pŵer i benodi staff. Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15 
Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch . contractau Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16 
Y pŵer i ystyried adroddiadau anffafriol gan y Comisiynydd Lleol . Adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
ATODLEN 2
SWYDDOGAETHAU A ALL FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD FELLY)
Rheoliad 3
1 
Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol heblaw swyddogaeth a bennir neu y cyfeirir ati yn Atodlen 1.
2 
Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.
3 
Penodi byrddau adolygu o dan reoliadau o dan is-adran (4) o adran 34 (dyfarnu ar geisiadau ac adolygiadau) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998.
4 
Gwneud trefniadau yn unol ag is-adran (1) o adran 67 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion) ac Atodlen 18 iddi.
5 
Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.
6 
Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu) ac Atodlen 25 iddi.
7 
Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996 i ganiatáu gofyn cwestiynau ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.
8 
Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.
9 
Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n dwyn effaith am y tro o dan adran 5 (adolygiadau'r gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 .
10 
Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig).
11 
Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer.
12 
Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol).
13 
Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod.
14 
Archwilio ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol.
15 
Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol).
16 
Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ynghylch buddiannau mewn tir.
17 
Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976).
18 
Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd.
19 
Penodi unrhyw unigolyn—
(a) i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;
(b) i unrhyw gorff heblaw—
(i) yr awdurdod;
(ii) cyd-bwyllgor o ddau neu ragor o awdurdodau; neu
(c) i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,a diddymu unrhyw benodiad o'r fath.
20 
Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu manteision eraill mewn achosion o gamweinyddu etc.
21 
Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.
ATODLEN 3
SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD YN UNIG
Rheoliad 4(1)


(1) (2)
Cynlluniau a strategaethau Cyfeiriad
Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Adran 527A o Ddeddf Addysg 1996
Cynllun Perfformiad y Gwerth Gorau Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27)
Cynllun Gwasanaethau Plant Paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (p.41)
Cynllun Gofal Cymunedol Adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19)
Strategaeth Gymunedol Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37)
Cynllun Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar Adran 120 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Strategol Addysg Adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Gwasanaethau Gorfodi'r Gyfraith Bwyd 
Cynllun Trafnidiaeth Lleol Adran 92 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000
Cynllun Trefniadaeth Ysgolion Adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Cynllun Iaith Gymraeg Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37)
ATODLEN 4
AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD ODANYNT
Rheoliad 5


(1) (2)
Y Swyddogaeth Yr Amgylchiadau

1 
Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol), heblaw cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun neu strategaeth y cyfeirir atynt yn Atodlen 3. Mae'r awdurdod yn dyfarnu y dylai'r penderfyniad a ddylai'r cynllun neu'r strategaeth gael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gael ei gymryd ganddynt hwy.

2 
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth—
(a) sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a
(b) sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu eu benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf. Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno—
(a) o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy—
(i) cyllideb yr awdurdod; neu
(ii) y cynllun neu'r strategaeth sydd am y tro wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu gan yr awdurdod mewn perthynas â'u benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf; a
(b) heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

3 
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth—
 unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf
(a) sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf
(b) y mae cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol ) wedi'u mabwysiadu neu wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod mewn perthynas â hi. Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a honno o blaid dyfarfnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl fel y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.