
2001 Rhif 2286 (Cy. 174 )
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001
Wedi'i wneud 21 Mehefin 2001
Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1974,
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000
2 
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—
(a) at swyddog safonau moesegol yn gyfeiriad at Gomisiynydd Lleol yng Nghymru;
(b) at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru;
(c) at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;
(ch) at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a
(d) at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
3 
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a welir yn yr Atodlen honno.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 1974 gydag addasiadau
4 
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 1974 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a welir yn yr Atodlen honno.
Y Gyfraith Ddifenwi
5 

(1) At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan swyddog dynodedig mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.
(2) Ystyr “swyddog dynodedig” ym mharagraff (1) yw unrhyw berson a ddynodwyd yn ysgrifenedig gan Gomisiynydd Lleol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
Atodlen 1
Cymhwyso Darpariaethau Deddf 2000
Erthygl 2


Yr adran neu'r paragraff Y pwnc
adran 60(1), (4) a (5 Ymchwilio
adran 61 Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau
adran 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10), (11) Darpariaethau pellach mewn perthynas ag ymchwiliadau
adran 63(3) Cyfyngiadau ar datgelu gwybodaeth
Atodlen 2
Cymhwyso Darpariaethau yn Neddf 2000 gydag Addasiadau
Erthygl 3
Adran 60(6)
1 
Bydd adran 60(6) o Ddeddf 2000 (Cynnal Ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai —
(a) y geiriau “an ethical standards officer” wedi'u disodli gan y geiriau “a Local Commissioner in Wales”; a
(b) y geiriau “or paragraph 3(2) of Schedule 4 or any breach falling within paragraph 3(3) of that Schedule.” wedi'u disodli gan y geiriau “paragraph 1(1) and (2) of Schedule 4 of the Local Government Act 1974.”.
Adran 62(4)
2 
Bydd Adran 62(4) o Ddeddf 2000 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) yn gymwys fel pe bai —
(a) y geiriau “An ethical standards officer” wedi'u disodli gan y geiriau “A Local Commissioner in Wales”; a
(b) y geiriau “the National Assembly for Wales or” wedi'u mewnosod ar ôl “the authority concerned and” ym mharagraff (a).
Adran 63(2)
3 
Bydd adran 63(2) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai —
(a) y geiriau “The Secretary of State” wedi'u disodli gan y geiriau “The National Assembly for Wales”;
(b) y gair “England” wedi'i ddisodli gan y gair “Wales”;
(c) y geiriau “any ethical standards officer” wedi'u disodli gan y geiriau “a Local Commissioner in Wales”; ac
(ch) y geiriau “his or (as the case may be)” wedi'u dileu.
Atodlen 3
Cymhwyso Darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
Erthygl 4
Adran 32(2)
Bydd adran 32(2) o Ddeddf 1974 (Y gyfraith ddifenwi a datgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r is-baragraff canlynol wedi'i ychwanegu —“
(d) for the purposes of the investigation and of any report to be made under section 69 of the Local Government Act 2000.”.