
2001 Rhif 2279 (Cy. 169 )
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001
Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 81(5) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân neu awdurdod Parc Cenedlaethol;
 ystyr “buddiant” (“interest”) yw buddiant y mae'n ofynnol ei gofrestru yng nghofrestr buddiannau'r awdurdod perthnasol;
 ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff (heblaw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall) sy'n cynnal ei weithgareddau heblaw ar gyfer gwneud elw;
 acystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Yr amgylchiadau lle gellir caniatáu gollyngiadau
2 
Caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol ganiatáu gollyngiadau o dan adran 81(4) o'r Ddeddf —
(a) os oes gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw;
(b) os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (ch) neu baragraff (d) hefyd yn gymwys;
(c) yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, os byddai anallu aelod i gymryd rhan yn tarfu ar gydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod perthnasol neu'r pwyllgor o'r awdurdod y mae'r busnes i'w ystyried ganddo i'r fath raddau nes y byddai'r canlyniad yn debygol o gael ei effeithio;
(ch) os yw natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;
(d) os yw'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd;
(dd) os oes cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod;
(e) os yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol;
(f) os yw'r busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli heblaw fel cynrychiolydd yr awdurdod perthnasol ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes hwnnw ar yr amod na fydd unrhyw ollyngiad yn ymestyn i gymryd rhan mewn unrhyw bleidlais mewn perthynas â'r busnes hwnnw; neu
(ff) os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ei bod o les i drigolion ardal yr awdurdod perthnasol i'r anallu gael ei godi, ar yr amod bod hysbysiad ysgrifenedig bod y gollyngiad yn cael ei ganiatáu yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod a hynny mewn unrhyw fodd y gall ei bennu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001