
2001 Rhif 2276 (Cy.166)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 21 Mehefin 2001
Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 49(2) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;
 ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod hwnnw ond sydd—
(a) yn aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau'r awdurdod, neu
(b) yn aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod ac yn cynrychioli'r awdurdod arno,
 ac y mae ganddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn unrhyw un o gyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; ac
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
(a) cyngor sir,
(b) cyngor bwrdeistref sirol,
(c) cyngor cymuned,
(ch) awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947, a
(d) awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Yr egwyddorion sy'n llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol
3 
Mae'r egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
ATODLEN
YR EGWYDDORION
Erthygl 3
Anhunanoldeb
1 
Rhaid i aelodau weithredu er lles y cyhoedd yn unig. Rhaid iddynt beidio byth â defnyddio'u safle fel aelodau er mantais amhriodol iddynt eu hunain neu er mantais neu anfantais amhriodol i eraill.
Gonestrwydd
2 
Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy'n berthnasol i'w dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro mewn modd sy'n diogelu buddiannau'r cyhoedd.
Uniondeb a Gwedduster
3 
Rhaid i aelodau beidio â'u rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn bwrw amheuaeth ar eu huniondeb. Rhaid i aelodau osgoi ymddygiad sy'n ymddangos felly bob adeg.
Dyletswydd i Gynnal y Gyfraith
4 
Rhaid i aelodau weithredu i gynnal y gyfraith, a gweithredu bob amser yn unol â'r ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd wedi'i rhoi iddynt.
Stiwardiaeth
5 
Wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau rhaid i aelodau sicrhau bod adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n gyfreithlon ac yn ddoeth.
Gwrthrychedd wrth wneud Penderfyniadau
6 
Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gynnwys gwneud penodiadau, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon a manteision, rhaid i aelodau wneud penderfyniadau ar sail rhagoriaeth. Er bod rhaid i aelodau roi sylw i gyngor proffesiynol swyddogion a gall fod yn briodol iddynt roi sylw i farn eraill, gan gynnwys eu grwpiau gwleidyddol, eu cyfrifoldeb hwy yw penderfynu pa safbwynt i'w arddel ac, os yw'n briodol, sut i bleidleisio ar unrhyw fater.
Cydraddoldeb a Pharch
7 
Rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau gyda sylw dyladwy i'r angen i hybu cyfle cyfartal i bawb, ni waeth beth yw eu gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd, a dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
Bod yn Agored
8 
Rhaid i aelodau fod mor agored â phosibl ynghylch eu holl weithredoedd a gweithredoedd eu hawdurdod. Rhaid iddynt geisio sicrhau bod datgeliadau gwybodaeth yn cael eu cyfyngu yn unol â'r gyfraith yn unig.
Atebolrwydd
9 
Mae'r aelodau'n atebol i'r etholwyr ac i'r cyhoedd yn gyffredinol am eu gweithredoedd ac am sut y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau fel aelod. Rhaid iddynt fod yn barod i ildio i unrhyw archwiliadau sy'n briodol ar gyfer eu cyfrifoldebau.
Rhoi Arweiniad
10 
Rhaid i aelodau hybu a chefnogi'r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad ac esiampl fel y byddant yn hybu hyder cyhoeddus yn eu rôl ac yn yr awdurdod. Rhaid iddynt barchu didueddwch ac uniondeb swyddogion statudol yr awdurdod a chyflogeion eraill yr awdurdod.