
2001 Rhif 2253 (Cy.163)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970  (fel y'i darllenir gyda rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Eithriadau) (Cymru a Lloegr) 2000 ) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru , ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r buddiannau sydd o dan sylw, a chan ei fod wedi'i ddynodi ) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972  mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) 1999
2 
Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) 1999  eu diwygio mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.
3 
Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl y geiriau “pursuant to the Act,” ychwanegir y geiriau “or, in the cases of the substances vitamin A and vitamin E, in a sample of a premixture to be analysed pursuant to Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs,” ; a
(b) ym mharagraff (2) caiff is-baragraff (c) ei ddileu.
4 
Caiff Atodiad 1 i Ran II o Atodlen 2 ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ôl yr eitem ar gyfer Theobromine ychwanegir yr eitem ganlynol yng ngholofnau 1 i 3:“
Tryptophan Part C of the Annex to Directive 2000/45/EC OJ No. L174, 13.7.2000,”
(b) yn lle'r darpariaethau yng ngholofnau 2 a 3 ynghylch yr eitem ar Vitamin A gyfer Fitamin A rhoddir y darpariaethau canlynol:“
Part A of the Annex to Directive 2000/45/EC OJ No. L174, 13.7.2000, p.32.”
ac
(c) ar ôl yr eitem ar gyfer Fitamin A ychwanegir yr eitem ganlynol yng ngholofnau 1 i 3:“
Vitamin E Part B of the Annex to Directive 2000/45/EC OJ No. L174, 13.7.2000, p.32.”
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi 2000
5 
Yn Rheoliadau Deunyddiau Porthi 2000 , caiff rheoliad 26, paragraff (b) o reoliad 27 ac is-baragraff (ch)(i) o'r rheoliad hwnnw eu hepgor.
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999
6 

(1) Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999  eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn—
(a) yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999.”, lle bynnag y'u gwelir, mewnosodir y geiriau “, as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001,” ; a
(b) yn rheoliad 106(2), caiff is-baragraff (c) ei ddileu.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw rheoliadau 98(8) a (9), 99 a 106(1).
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999
7 
Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999h) eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 8, ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999” ychwanegir y geiriau “as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001”; a
(b) yn rheoliad 10, yn yr addasiad ar adran 76(8), (9) a (10) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999” ychwanegir y geiriau “as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001”; ac
(c) yn rheoliad 11, yn lle'r geiriau “not a feeding stuff”, rhoddir y geiriau “neither a feeding stuff, nor a premixture to which Part A or Part B of Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs applies”.
8 
Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999 eu diwygio mewn perthynas â Chymru drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 11—“
11A 
For the purposes of sections 77(4) and 78(6) of the Act, analysis shall (as specified in regulation 7) be treated as carried out in the prescribed manner, in relation to a sample of a premixture to which Part A or Part B of Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs applies, if it is carried out in accordance with whichever of those Parts is applicable in the case concerned.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol
14 Mehefin 2001