
2001 Rhif 2196 (Cy. 156) (C. 72)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 12 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 12(2) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.
Y Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 1 Gorffennaf 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
YR ATODLEN
DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 Gorffennaf 2001
Erthygl 2


 Adran 1 (Hawl gofalwyr i gael asesiad)
 Adran 2 (Gwasanaethau i ofalwyr)
 Adran 4 (Asesiadau a gwasanaethau i'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal)
 Adran 5 (Taliadau uniongyrchol)
 Adran 6 (Asesiadau: personau sydd â gofal rhieni dros blant anabl)
 Adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989, ac adran 7(2) a (3) (Taliadau uniongyrchol i blant anabl ac i bersonau â chyfrifoldeb rhiant drostynt)
 Adran 8 (Codi tâl)
 Adran 9 ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir ganddi yn cyfeirio at ddarparu talebau (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
 Adran 10 (Darpariaeth ariannol)
 Adran 11 ac eithrio is-adran (4) (Dehongli a rheoleiddio).
