
2001 Rhif 2072 (Cy.144)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 24 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4), 101 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau
2 

(1) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 yn cael ei diwygio i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2001
YR ATODLEN
DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O DAN Y TEITL “CAIS AM GRANT ADLEOLI”
Rheoliad 2
1 
Yng nghwestiwn 4.31, yn y lle priodol, mewnosodwch—“”.
2 
Yng nghwestiwn 4.34, yn lle “a 50B”, rhowch “, 50B a 50C”.
3 
Ar ôl cwestiwn 4.34, mewnosodwch—“
4.34A 
Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner ar 1 Chwefror 2001 neu ar unrhyw adeg wedyn yn ymwneud â charchariad neu gaethiwed gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 50D”
4 
Yng nghwestiwn 4.38, mewnosodwch—“”
5 
Yn nodyn 19, ar ôl y geiriau “at ddibenion budd-dâl plant”, mewnosodwch “, neu sydd yng ngofal awdurdod lleol ac sydd wedi'i leoli gyda chi gan yr awdurdod”.
6 
Yn nodyn 45, ar ôl “(darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)”, mewnosodwch—“
 ;
— grant ar gyfer prydau ysgol i blant dibynnol, neu ar gyfer prydau i blant dibynnol 3 neu 4 oed, a dalwyd yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998”.
7 
Ar ôl nodyn 46C, mewnosodwch—“
46D 
Rhaid i chi gynnwys unrhyw daliad o gronfeydd mynediad a fwriedir i'ch galluogi chi fel myfyriwr i dalu costau byw cyffredin — cost bwyd, tanwydd yr aelwyd, rhent, dillad, ac esgidiau — taliadau dŵ r neu'r Dreth Gyngor. Anwybyddir taliadau cronfeydd mynediad at y dibenion hyn hyd at £20 yr wythnos, ond fe ddylent gael eu cynnwys beth bynnag. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a roddwyd at ddibenion eraill.”
8 
Ar ôl nodyn 50B, mewnosodwch—“
50C 
Peidiwch â chynnwys—
— unrhyw gyfandaliad lwfans cynhaliaeth sy'n daladwy mewn perthynas â chymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogi;
— unrhyw daliad mewn cysylltiad â chynllun i leihau tan-feddiannaeth, a wnaed o dan reoliad 11 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000.
50D 
Os oes taliad ex gratia o £10,000 wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn oherwydd bod (a) chi, (b) eich partner, (c) priod i chi sydd wedi marw, neu (ch) priod i'ch partner sydd wedi marw, wedi'u carcharu neu wedi'u caethiwo gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd, caiff y swm hwnnw ei anwybyddu fel cyfalaf.”.