
2001 Rhif 2070 (Cy. 142)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 24 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12(1)(i), 17(1)(j) a 27(1)(j) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd i'r Gorchymyn hwn unrhyw effaith mewn perthynas â chais am grant a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2001.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Grantiau adnewyddu
3 
At ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (grantiau adnewyddu: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Grantiau rhannau cyffredin
4 
At ddibenion adran 17 o'r Ddeddf (grantiau rhannau cyffredin: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Grantiau tai mewn aml-feddiannaeth
5 
At ddibenion adran 27 o'r Ddeddf (grantiau tai mewn aml-feddiannaeth: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2001