
2001 Rhif 203 (Cy. 9 ) (C. 10 )
BYWYD GWYLLT, CYMRU
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 24 Ionawr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 .
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnod Penodedig
2 
30 Ionawr 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw adran 99 o'r Ddeddf i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Ionawr 2001