
2001 Rhif 2019 (Cy. 140)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 17 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:—
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.
Diddymu
2 
Mae Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992 drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru fel y diffiniwyd yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2001