
2001 Rhif 2018 (Cy.139)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
CADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 17 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(1) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.
Diddymu
2 
Mae Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986 drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2001