
2001 Rhif 1987 (Cy. 138)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 15 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Awst 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(1) a (3) a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Estyn darpariaethau adran 43(5) o Ddeddf Addysg 1997
2 
Bydd adrannau 43 a 44 o Ddeddf Addysg 1997 yn cael effaith fel petai'r cyfnod canlynol wedi'i roi yn lle'r cyfnod a bennir yn adran 43(5) fel y rhan berthnasol o addysg disgybl, sef y cyfnod—
(a) sy'n dechrau yr un pryd â'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 14 oed; a
(b) sy'n gorffen pan ddaw'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 19 oed i ben.
Y gofyniad i ddarparu addysg gyrfaoedd mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach (p'un a ydynt yn eu mynychu'n amser llawn neu'n rhan amser) ac sydd wedi cyrraedd 16 oed ond nad ydynt wedi cyrraedd 20 oed.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r sefydliadau hynny a phrifathrawon neu benaethiaid eraill y sefydliadau hynny sicrhau bod rhaglen addysg gyrfaoedd yn cael ei darparu ar gyfer y personau hynny y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “addysg gyrfaoedd” (“careers education”) yw addysg sydd wedi'i llunio i baratoi personau ar gyfer gwneud penderfyniadau am eu gyrfaoedd a'u helpu i weithredu'r penderfyniadau hynny;
 mae i “sefydliadau o fewn y sector addysg bellach” yr un ystyr ag “institutions within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 mae “gyrfaoedd” (“careers”) yn cynnwys ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant, cyflogaeth neu alwedigaeth neu unrhyw gwrs addysg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Mai 2001