
2001 Rhif 1786 (Cy.127)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 1 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985 ac a freiniwyd iddo i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymym hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.
(2) Mae'r Gorchymym hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Cyrff a bennir
2 
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon)—
(a) Battersea Park Mortgage Funding Limited – Rhif y Cymni 3530410
(b) Richmond Park Mortgage Funding Limited – Rhif y Cymni 3597946
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mai 2001