
2001 Rhif 1690 (Cy.120)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 1 Mai 2001
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2002
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefyliadau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddiannau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol gan y Rheoliadau, mae Cynylliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.
Diwygio Rheoliadau blaenorol mewn perthynas â Chymru
2 
I'r graddau y mae Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995 yn gymwys i Gymru, fe'u diwygir drwy fewnosod—
(a) ym mharagraff (2) o reoliad 1 (enw, cychwyn a dehongli)—
(i) (ar ôl y diffiniad o “advertisement”, “advertise” ac “advertising”) y diffiniad canlynol—“
 “the Directive” means Commission Directive 91/321/EECon infant formulae and follow-on formulae as amended by amendments up to and including those effected by Commission Directive 1999/50/EC”; a
(ii) (ar ôl y diffiniad o “Member state”) y diffiniad canlynol—“
 “pesticide residue” has the meaning given by Article 1(2)(e) of the Directive”; a
(b) ar ddiwedd paragraff (2) o reoliadau 8 a 9 (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), y geiriau“and it shall not—
(a) if it is manufactured as ready for consumption, contain, or
(b) if it is not so manufactured, be such that it would, if reconstituted according to its manufacturer’s instructions, contain,
residues of any individual pesticide at a level exceeding 0.01 mg/kg”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mai 2001