
2001 Rhif 1660 (Cy. 119)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud am 6:05pm ar 2 Mai 2001
Yn dod i rym am 7:30pm ar 2 Mai 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym am 7.30 o'r gloch ar 2 Mai 2001.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn lle rheoliad 16(3) rhoddir y ddarpariaeth ganlynol—“
(3) Subject to the following paragraph, if an authorised officer of the Minister, the Agency or a local authority has reasonable grounds for believing that any product of animal origin does not comply with animal or public health conditions relating to import into Great Britain or the European Community he may, by means of a notice served on the person appearing to him to have charge of the consignment, prohibit the movement of the consignment except as specified in the notice.”.
(3) Yn lle rheoliad 20(3), rhoddir y ddarpariaeth ganlynol—“
(3) Where an authorised officer of the Minister or a local authority has reasonable grounds for believing that any product of animal origin does not comply with animal or public health conditions relating to import he may, by notice in writing, require the person appearing to be in charge of that product to destroy or re-export it , in each case under the control and direction of the authorised officer.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jenny Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
Arwyddwyd am 6:05pm ar 2 Mai 2001