
2001 Rhif 1506 (Cy. 104 )
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 20 Ebrill 2001
Yn dod i rym 21 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 57(6) a 63(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 63(1) â'r cyrff hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, darfod a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001.
(2) Daw'r Rheolidau hyn i rym ar 21 Ebrill 2001 a byddant yn darfod ar 20 Gorffennaf 2001 oni chânt eu hestyn neu eu diddymu cyn hynny gan Reoliadau pellach.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Gwastraff Rhagnodedig
2 

(1) Bydd adran 57 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (pŵ er yr Ysgrifennydd Gwladol i'w gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei ddebyn, ei drin, ei waredu neu ei draddodi) yn cael effaith yng Nghymru fel pe bai cyfeiriadau at wastraff a reolir yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw wastraff sy'n dod o safleoedd a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947 ac yn cynnwys—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (3), carcasau (neu rannau o garcasau, gan gynnwys gwaed) yr anifeiliaid a bennir ym mharagraff (2); neu
(b) deunydd wedi'i rendro neu ludw o ganlyniad i rendro neu losgi'r carcasau (neu rannau o garcasau, gan gynnwys gwaed) yr anifeiliaid a bennir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r anifeiliaid y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) a (b)—
(a) gwartheg, defaid, geifr, unrhyw anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil neu foch; a'r rheiny
(b) wedi'u cigydda o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i fesurau a gymerwyd mewn cysylltiad â chlwy'r traed a'r genau.
(3) Ni fydd paragraff (1)(a) yn gymwys i wartheg a anwyd cyn 1 Awst 1996.
Deddfiadau a ragnodir at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
3 
Rhagnodir y deddfiadau canlynol at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (amddiffyniadau yn achos cydymffurfio â chyfarwyddyd)—
(a) adrannau 179, 187, 187A, 216 a 331 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; a
(b) adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad
20 Ebrill 2001