
2001 Rhif. 1438 (Cy.100)
HENEBION, CYMRU
Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001
Wedi'u gwneud 5 Ebrill 2001
Yn dod i rym 1 Mai 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1(1), 2(1) a 2(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979 fel y'i hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981).
Ffurflenni rhagnodedig
3 

(1) Y ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy hyn yw'r fersiwn Gymraeg ragnodedig y gellir ei defnyddio yn hytrach na'r ffurflen gyfatebol yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i'r diben a nodir yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau.
(2) Y ffurflenni a nodir yn Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn drwy hyn yw'r fersiynau Cymraeg rhagnodedig y gellir eu defnyddio yn hytrach na'r ffurflennni cyfatebol yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i'r diben a nodir yn rheoliad 3(1) o'r prif Reoliadau.
(3) Y ffurflen a nodir yn Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn drwy hyn yw'r fersiwn Gymraeg ragnodedig y gellir ei defnyddio yn hytrach na'r ffurflen gyfatebol yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i'r diben a nodir yn rheoliad 3(2) o'r prif Reoliadau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 5 Ebrill 2001
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN/SCHEDULE 1

FFURFLEN GAIS AM GYDSYNIAD HENEB GOFRESTREDIG
CAIS AM GYDSYNIAD HENEB GOFRESTREDIG
DEDDF HENEBION A MANNAU ARCHAEOLEGOL 1979
ATODLEN/SCHEDULE 2

RHAN/PART I
FFURFLENNI AR DYSTYSGRIF AT DDIBENION
PARAGRAFF 2(1) O ATODLEN 1 I'R DDEDDF
ATODLEN/SCHEDULE 2

RHAN/PART II
FFURFLENNI HYSBYSU AT DDIBENION
PARAGRAFF 2(1) O ATODLEN 1 I'R DDEDDF