Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi ei gyhoeddi i gywiro Rhif OS 2001/1471, gan ei newid i OS 2001/1411.
2001 Rhif 1411 (Cy.97)(C.51)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Rhif 2) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 4 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Rhif 2) (Cymru) 2001 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 9 Ebrill 2001
2 
Daw darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol 2000 i rym ar 9 Ebrill 2001 -
 adran 1 (ystyr “local authority” yn Rhan I)
 adran 2 (hybu lles)
 adran 3(1), (2) ac (8) (cyfyngiadau ar y pŵer i hybu lles)
 adran 4(1), (2) a (3)(a) (strategaethau ar gyfer hybu lles)
 adran 5(1), (2), (3), (4) a (6) (y pŵer i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau)
 adran 6(1), (2), (3), (4), (5), (7) ac (8) (y pŵer i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc.)
 adran 8 (addasu adran 137 o Ddeddf 1972)
 adran 9 (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion adran 5 neu 6)
 adran 107(2) (mân ddiwygiadau a diddymiadau a rhai canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau canlynol a nodir yn Atodlen 6 —
 yn adran 25(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, y geiriau o “Without prejudice ” i “inhabitants of its area”;
 yn adran 13 o Ddeddf Ardaloedd Canol Trefi 1978, y geiriau “section 137(1) of the Local Government Act 1972 or”;
 adran 11A(4) o Ddeddf Tai 1985; ac
 adrannau 34 a 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2001