
2001 Rhif 140 (Cy. 6 )
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 23 Ionawr 2001
Yn dod i rym 28 Chwefror 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(3) o Ddeddf Plant 1989 ac sy'n arferadwy ganddo bellach mewn perthynas â Chymru.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3A—“
Exemption from registration as a children’s home
3B 

(1) Subject to section 63(12) and Schedule 7 to the Act (Foster parents: limits on number of foster children), any home in which a child is cared for and accommodated by a person who—
(a) is a local authority foster parent in relation to the child; or
(b) is a foster parent with whom the child has been placed by a voluntary organisation; or
(c) fosters the child privately,
is so far as the provision of care and accommodation for that child is concerned, exempt from the definition of a “children’s home” in section 63(3) of the Act.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2001