
2001 Rhif 1396 (Cy.91)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 29 Mawrth 2001
Yn dod i rym 1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 41, 42, 43, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 () drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992;
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2 
Yn Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn lle'r diffiniad o “Charges Regulations” rhoddir y diffiniad canlynol yn y lle priodol —“
 “Charges Regulations” means the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2001;”
Diwygio Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
3 

(1) Caiff Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr), ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol)—
(a) yn is-baragraff (1C)(a)(i) dilëwch y geiriau “any of sub-paragraphs (d) to (g) of regulation 6(1)” a mewnosodwch y geiriau “regulation 8(1)”;
(b) yn is-baragraff (1C)(a) dilëwch y geiriau “ (d), (e) or (f) of regulation 6(1)” a mewnosodwch y geiriau “(a), (b), (c), (d) or (e) of regulation 8(1)”.
Diwygio Rhan III o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
4 

(1) Caiff Rhan III o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol) ei diwygiio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 11B—
(a) yn is-baragraff (a)(i) dilëwch y geiriau “any of sub-paragraphs (d) to (g) of regulation 6(1)” a mewnosodwch y geiriau “regulation 8(1)”;
(b) yn is-baragraff 11B(a) dilëwch y geiriau “(d), (e) or (f) of regulation 6(1)” a mewnosodwch y geiriau “(a), (b), (c), (d) or (e) of regulation 8(1)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001