
2001 Rhif 1361 (Cy. 89)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001
Yn dod i rym 1 Mai 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson sy'n prynu heblaw ar gyfer ailwerthu;
 ystyr “Darpariaeth gymunedol” (“Community Provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth atodol y cyfeirir ati yng ngholofn 2 gyferbyn â'r cyfeiriad yng ngholofn 1;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
 ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sydd yn bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenoidau actif biolegol eraill yn hafal i 1 microgram o sylwedd sy'n gyfwerth â retinol;
 ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrthlechog;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddiannu i werthu, a chynnig, amlygu neu hysbysebu i werthu;
 ystyr “Gwladwriaeth EEA” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio Cytundeb yr EEA;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1278/97), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2181/97, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 623/98), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1298/98, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2521/98 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94) sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.
Esemptiadau
3 

(1) Ac eithrio lle mae paragraff (2) isod yn gymwys, oni bai a hyd nes y ceir penderfyniad gan Gyd-bwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o'r Cytundeb EEA i'w diwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac—
(a) a ddygir i Gymru—
(i) o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw Aelod-wladwriaeth) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi, neu
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig os dygwyd y braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth EEA o'r fath; a
(b) sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y braster taenadwy.
(2) Ni fydd Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn—
(a) a ddygir i Gymru—
(i) o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw'r Deyrnas Unedig) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi,
(ii) o Aelod-wladwriaeth (heblaw'r Deyrnas Unedig) yr oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol ynddi, neu
(iii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol; a
(b) sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y margarîn.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr ag sydd i “free circulation” yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.
Cynnwys fitaminau mewn margarîn
4 

(1) Rhaid i unrhyw fargarîn a adwerthir gynnwys ym mhob 100 gram o'r margarîn hwnnw—
(a) dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1000 microgram o fitamin A, a
(b) dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 microgram o fitamin D,
a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
(2) Ni chaiff neb adwerthu unrhyw fargarîn yn groes i'r rheoliad hwn.
Gorfodi
5 
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Tramgwyddo a chosbi
6 
Os bydd unrhyw berson yn torri neu'n methu cydymffurfio—
(a) â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, neu
(b) ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
7 
Mewn unrhyw achos o dan reoliad 6(b) o'r Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi—
(a)  bod y bwyd yr honnir fod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a'i fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b) bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn achos—
(i) allforio i Aelod-wladwriaeth, neu
(ii) pan fydd yna benderfyniad gan Gydbwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o Gytundeb yr EEA i'w ddiwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, allforio i un o Wladwriaethau'r EEA nad yw'n Aelod-wladwriaeth.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
8 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
 adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
 adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
 adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
 adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
 adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
 adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
 adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);
 adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
(2) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol—
 adran 32 (pwerau mynediad);
 adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
 adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diddymu
9 
Diddymir drwy hyn y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2001
ATODLEN 1
Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL
Rheoliad 2(1)


Y Ddarpariaeth Gymunedol Darpariaethau atodol Y Pwnc

1 
Rheoliad y Cyngor :
(a) Erthygl 2
(b) Erthygl 3
(c) Erthygl 4
(ch) Erthygl 5
(d) Erthygl 7 Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor ac rthygl 1 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I iddoErthygl 2 o Reoliad y Comisiwn a Atodiad II iddo Cyfyngiadau ar farchnata brasterau taenadwyGofynion ynghylch labelu a chyflwyno brasterau taenadwyCyfyngu ar ddefnyddio'r term “traditional” gyda'r enw “butter”Cyfyngu ar ddefnyddio termau ynghylch cynnwys brasterGofynion ynghylch brasterau a fewnforir o drydydd gwledydd

2 
Rheoliad y Comisiwn: Erthygl 3  Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r dynodiad “butter” ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd
ATODLEN 2
DIDDYMIADAU
Rheoliad 9


Rheoliadau a ddiddymir Cyfeiriadau
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995 O.S. 1995/3116.
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Diwygio) 1998 O.S. 1998/452.
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Diwygio) (Rhif 2) 1998 O.S. 1998/2538.
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1999 O.S. 1999/540.