
2001 Rhif 1231 (Cy. 65 )
AER GLÅN, CYMRU
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 22 Mawrth 2001
Yn dod i rym 1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i fodloni bod y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn yn medru cael eu defnyddio i losgi tanwyddau heb fod yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993 :
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
2 
Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemtio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd gollyngiadau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2001
ATODLEN
Erthygl 2
Dosbarth y Lle Tân
Y “Beech Wood Fired Pizza Oven” sy'n cael ei chynhyrchu gan Beech Wood Fired Ovens, Brisbane, Awstralia.
Amodau
1 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 3 Mawrth 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod “BBP236UK”
2 
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren caled sych sydd heb ei drin.
Dosbarth y Lle Tân
Y “Morsø 3400 Owl” Cyfres GB ar gyfer llosgi pren sy'n cael ei chynhyrchu gan Morsø Jernstøberi A/S, Denmarc.
Amodau
1 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 1 Ionawr 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod “72345600”
2 
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw—
(a) pren sych sydd heb ei drin, ac sydd wedi ei hollti, ei stacio a'i sychu yn yr aer; neu
(b) briceti pren sydd wedi eu sychu yn yr aer.